Newyddion S4C

Angen 'diwygiadau brys' i leihau nifer y plant mewn gofal

24/05/2023
S4C

Mae angen 'diwygiadau brys' er mwyn gwrthdroi'r cynnydd 'brawychus' yn nifer y plant mewn gofal, yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd.

Fe wnaeth Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ddod i'r casgliad bod angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu'r angen i 'gryfhau hawliau cyfreithiol' pobl ifanc mewn gofal. 

Roedd pobl ifanc ledled Cymru sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn ganolog i'r ymchwiliad, gyda nifer ohonynt yn dweud wrth y pwyllgor eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu 'hanwybyddu' ac nad oedd ganddynt 'unrhyw lais yn y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau'.

Mae nifer y plant mewn gofal yng Nghymru wedi cynyddu 23% ers 2013. 

Mae'r pwyllgor yn argymell bod angen i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gynyddu'r cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. 

Mae hefyd yn argymell y dylai awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill gael mwy o gyfrifoldebau cyfreithiol i sicrhau fod y plant a'r bobl ifanc yn derbyn y cymorth angenrheidiol.

Mae'r Pwyllgor yn galw am 12 o ddiwygiadau radical er mwyn sicrhau newidiadau brys yn y system ofal, yn ogystal â chynnwys cyfanswm o 27 o argymhellion. 

Mae'r argymhellion yn cynnwys rhoi statws 'angen blaenoriaethol' i'r rhai sydd â phrofiad o fod mewn gofal nes eu bod yn 25 oed os ydynt yn ddigartref, ac ei gwneud yn hawl gyfreithiol i bob plentyn mewn gofal gael mynediad at therapi iechyd meddwl. 

'Poen a thrawma'

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Jayne Bryant AS: "Drwy gydol ein hymchwiliad, clywsom gan bobl ifanc sydd â phrofiad o’r system ofal a chan y sefydliadau sy’n eu cynorthwyo. Straeon am boen a thrawma oedd ganddynt, a chawsom ddarlun o system sy’n methu yn llawer rhy aml.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno diwygiadau radical i’r system, ac rydym yn falch o weld hynny'n cael ei ailadrodd mewn datganiad gyda phobl ifanc ychydig wythnosau yn ôl. Yn awr yw’r amser i weithredu.  Mae dirfawr angen mwy o gymorth ar y bobl ifanc hyn a rhaid sicrhau y bydd cymorth yno iddynt drwy roi’r hawl cyfreithiol iddynt ei gael."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o fod mewn gofal, a hynny er mwyn diwygio gwasanaethau mewn ffordd radical i roi’r gefnogaeth a’r amddiffyniad gorau i blant a phobl ifanc a sicrhau eu bod yn ffynnu pan fyddant yn gadael gofal. Ein huchelgais yw sicrhau amrywiaeth eang o newidiadau, sy’n cynnwys dileu elw o ofal a lleihau'r niferoedd sy'n dod i mewn i'r system ofal a chadw teuluoedd gyda'i gilydd.   

"Yn ddiweddar fe gyhoeddon ni becyn cymorth i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol, sy’n werth £10 miliwn dros y tair blynedd nesaf, fel rhan o'n gwaith parhaus i recriwtio mwy o weithwyr cymdeithasol. Rydyn ni’n gweithio gyda'r sector i wella lefelau recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol, gan gynnwys drwy'r cynllun gweithlu gwaith cymdeithasol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Fe fyddwn ni’n ystyried yr argymhellion sydd yn yr adroddiad."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.