Dominic Rabb yn cyhoeddi y bydd yn camu o'r neilltu fel AS adeg yr etholiad nesaf

Mae Dominic Raab wedi cyhoeddi y bydd yn camu o'r neilltu fel AS adeg yr etholiad cyffredinol nesaf.
Fe wnaeth Raab adael cabinet Llywodraeth y DU ym mis Ebrill yn dilyn ymchwiliad i honiadau o fwlio.
Fe gafodd yr adroddiad ei gynnal gan y cyfreithiwr Adam Tolley a fu’n ymchwilio i honiadau gan weision sifil o fwlio yn ystod ei gyfnod yn Y Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r Swyddfa Dramor.
O’r wyth honiad o fwlio yn erbyn Mr Raab penderfynodd yr adroddiad ei fod yn euog o ddau gyhuddiad.
Cyhoeddodd nos Lun na fydd yn sefyll i fod yn AS pan ddaw'r etholiad cyffredinol nesaf, sydd i gael i gynnal yn 2025.
Mae'r cyn-ddirprwy prif weinidog wedi cynrychioli ei etholaeth, Esher a Walton, ers 2010.
Mewn llythyr at gadeirydd ei Gymdeithas Geidwadol leol, dywedodd Raab fod ei bryderon am y pwysau ar ei deulu yn un o'r rhesymau y tu ôl ei benderfyniad.
"Mae fy mhryderon am bwysau'r swydd ar fy nheulu ifanc wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf," meddai'r llythyr.
"Byddaf yn parhau i wneud fy nyletswyddau dros fy etholwyr, a darparu pob cefnogaeth wrth ymgyrchu, fel ein bod ni yn ennill yma flwyddyn nesaf - a dwi'n hyderus o gyflawni hynny dan arweinyddiaeth y Prif Weinidog."
Llun: Dominic Raab gan PA