Newyddion S4C

Natasha Asghar o'r Ceidwadwyr Cymreig yn ymgeisio am rôl Maer Llundain

22/05/2023
Natasha Asghar

Mae'r Aelod o'r Senedd, Natasha Asghar wedi cyhoeddi ei bod hi wedi cyflwyno cais i fod yn ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer rôl Maer Llundain. 

Mae'r aelod sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru ym Mae Caerdydd wedi cadarnhau bod ei ffurflen gais wedi ei chyflwyno. A phe bai ei hymgyrch yn llwyddiannus, mae'n addo adfer ffydd y cyhoedd yn Heddlu'r Met, a mynd i'r afael ag argyfwng tai Llundain.   

Sadiq Khan o'r blaid Lafur yw'r maer presennol.

Dywedodd Natasha Asghar: "Ar ôl ystyried y mater am gryn amser a chael anogaeth gan drigolion ar hyd a lled Llundain, rydw i wedi penderfynu ymgeisio yn ras y Ceidwadwyr, ar gyfer swydd Maer Llundain.   

“Rydw i wedi treulio bron i ddwy flynedd yn brwydro yn erbyn polisïau'r Blaid Lafur yng Nghymru, ac fel Gweinidog Trafnidiaeth yr wrthblaid yng Nghymru, rydw i'n barod i fynd â'r frwydr i Lundain.

“Mae Llundain yn ddinas wych i fyw, gweithio ac ymweld â hi - mae'n rhywle y dylem i gyd fod yn falch i'w alw'n gartref, ond yn anffodus, mae Sadiq Khan wedi esgeuluso ein dinas am gyfnod yn rhy hir, a mae'n rhaid newid hynny.

“Oherwydd fy angerdd tuag at Lundain, ei phobl, ei busnesau, a'i hymwelwyr - dyna'n union pam rydw i eisiau dod yn Faer nesaf Llundain ar ran y Ceidwadwyr." 

'Drysu'

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi beirniadu penderfyniad Natasha Asghar. Dywedodd llefarydd ar ran y blaid: " Dyma dystiolaeth unwaith yn rhagor fod y Ceidwadwyr yn blaenoriaethu Llundain ar draul Cymru.

"Mae'r cam hwn yn sicr o ddrysu pobl de ddwyrain Cymru." 

Treuliodd Natasha Asghar bron i ugain mlynedd yn byw yn Llundain.  

Mae'n ferch i'r diweddar Aelod Cynulliad Mohammad Asghar ac fel ei thad bu'n aelod o Blaid Cymru am gyfnod, gan sefyll dros y blaid ym Mlaenau Gwent yn 2007.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.