Arestio dyn yn dilyn marwolaeth menyw yn Rhondda Cynon Taf
Mae dyn 33 oed wedi ei arestio yn dilyn marwolaeth “anesboniadwy” menyw 26 oed yn Aberaman, ger Aberdâr, ddydd Mercher.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dŷ yn Ffordd Caerdydd ychydig wedi 03:00.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod y dyn wedi ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiadau yn ymwneud â’i marwolaeth.
Mae e wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau’n parhau.
Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu, gan ddefnyddio cyfeirnod 2300159162.
Llun: Google