Newyddion S4C

zara

Adolygiad i ofal iechyd Zara Radcliffe yn canfod nifer o fethiannau cyn iddi ladd dyn mewn siop

NS4C 19/05/2023

Mae adolygiad o ofal iechyd menyw wedi canfod nifer o fethiannau yn ei gofal cyn iddi ladd dyn mewn archfarchnad yn Rhondda Cynon Taf.

Roedd Zara Radcliffe, 30, wedi ymosod ar John Rees mewn siop Co-op ym Mhenygraig ar 5 Mai 2020 gan achosi anaf angheuol iddo. 

Fe wnaeth hi hefyd anafu nifer o unigolion eraill yn ystod y digwyddiad.

Yn ei hachos llys ym mis Hydref 2020 fe blediodd yn euog i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.

Plediodd yn euog hefyd i geisio lladd tri unigolyn arall.

Ddydd Gwener fe gyhoeddodd Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg ganfyddiadau i adolygiad o'r gofal yr oedd Zara Radcliffe wedi ei dderbyn yn y blynyddoedd cyn y digwyddiad, gan gyfeirio at Ms Radciffe fel 'Ann'.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ymddiheuro i Ms Radcliffe a'i theulu am y methiannau yn ei gofal.

Daeth yr adolygiad gan y Bwrdd Diogelu i'r casgliad fod ansicrwydd yn bodoli am ei statws iechyd meddwl ac roedd arwyddion o rybudd am ddirywiad cyflym ei hiechyd ac nid oeddynt wedi eu hadnabod neu roeddynt wedi eu prosesu'n wael.

Roedd hefyd awgrym nad oedd gwasanaethau iechyd wedi ymateb yn ddigonol i anghenion Ms Radcliffe dros y blynyddoedd, ac roedd cwestiynau am broses gwynion Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, yn dilyn pryderon rhieni Zara Radcliffe am ei chyflwr.

Wrth ddod i gasgliad, dywedodd yr adroddiad: "Gellir ystyried digwyddiadau trasig 5 Mai 2020 fel enghraifft sydyn a chreulon sydd yn dangos pob gwendid o ran cefnogi Ann a’i rhieni.

"Mae cynlluniau yn offer gweithredol. Heb ymdrech cynllunio o flaen llaw – gan sicrhau bod teulu’n gwybod pryd i leisio rhybuddion a gwybod y gellir dibynnu ar weithdrefnau sefydliadau i weithredu – mae cyfyngiadau ymyrraeth cyn unrhyw ddigwyddiad yn dod yn amlwg ac yn destun archwiliad beirniadol."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.