Newyddion S4C

Rishi Sunak

Uwchgynhadledd y G7: Rishi Sunak yn gwahardd diemwntau o Rwsia

NS4C 19/05/2023

Mae Rishi Sunak wedi cyhoeddi y bydd mewnforio diemwntau o Rwsia yn cael ei wahardd, a hynny ar drothwy cyfarfod y G7.

Ni fydd y DU yn mewnforio diemwntau o Rwsia bellach fel rhan o sancsiynau newydd ar y wlad - sydd hefyd yn cynnwys gwahardd mewnforio copr, alwminiwm a nicel.

Roedd y diwydiant allforio diemwntau gwerth mwy na £3 biliwn i Rwsia yn 2021. Mae Sunak yn gobeithio y bydd gwledydd eraill yn dilyn esiampl y DU.

"Dwi'n obeithiol ac yn hyderus bod gwledydd eraill yn ein dilyn, fel maen nhw wedi yn y gorffennol, a fyddai yn gwneud yn siŵr bod y sancsiynau yn fwy effeithiol, a bod Rwsia yn talu am eu gweithredoedd anghyfreithlon," meddai Rishi Sunak.

Rhybudd

Yn ogystal â'r sancsiynau, rhoddwyd rhybudd i Vladimir Putin gan Sunak bod y DU "ddim yn mynd i adael llonydd iddyn nhw" wrth i'r llywodraeth barhau i gefnogi Wcráin.

Bydd trafodaethau rhwng gwledydd y G7, gan gynnwys Arlywydd America Joe Biden ac Emmanuel Macron o Ffrainc yn canolbwyntio ar gefnogaeth filwrol ac ariannol i Wcráin.

Dywedodd Sunak ei fod wedi gweld camau "positif" gan India hefyd yn eu safiad yn erbyn y rhyfel, a bod trafod gyda gwledydd fel India yn hollbwysig.

"Un peth sydd angen i ni barhau i wneud yw siarad gyda gwledydd fel India a hefyd Brasil, bydd hynny yn ail ran yr uwchgynhadledd sydd yn beth dda."

Llun: Rishi Sunak yn Uwchgynhadledd y G7 gan PA

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.