Newyddion S4C

Aleighcia Scott: Dysgu Cymraeg 'i ddangos i bobl o dras gymysg ein bod ni'n Gymry hefyd'

21/05/2023
iaith ar daith

Mae'r gantores reggae a'r cyflwynydd radio a theledu Aleighcia Scott wedi dweud ei bod hi'n awyddus i ddysgu Cymraeg er mwyn dangos i bobl o dras gymysg "ein bod ni'n Gymry hefyd".

Cafodd Aleighcia ei magu yng Nghaerdydd, ond yn sgil lliw ei chroen, profodd sylwadau hiliol gan gynnwys “You’re not Welsh, you’re too black to be Welsh...” . 

Bydd Aleighcia yn ymddangos ar raglen Iaith ar Daith nos Sul, gyda'r actores Mali Ann Rees yn ei helpu ar ei thaith. 

"Mae yna ychydig o adegau ar-lein lle mae pobl wedi dweud 'Ti ddim yn Gymraeg, ti'n rhy ddu i fod yn Gymraes' a fe wnaeth o wneud i mi feddwl fod rhaid i hynny olygu fod yna lawer o straeon sydd heb eu dweud am bobl yng Nghymru. 

"Dwi'n teimlo fel bod o'n rhan o'r daith ac er bod fy mhlatfform i'n fach, byddwn i'n hoffi gallu dweud stori pobl sy'n edrych fel fi ac ein bod ni'n Gymry hefyd.

"Wrth dyfu fyny, roeddwn i eisiau bod yn rhugl yn y Gymraeg ac roedd yn rywbeth roeddwn i wrth fy modd gyda yn yr ysgol."

Dywedodd hefyd ei bod hi wedi bod yn dysgu yr iaith ond ei bod eisiau "bod yn fwy hyderus yn siarad Cymraeg ac yn gallu ei defnyddio fwy neu lai mewn bywyd bob dydd hefyd."

Mae Aleighcia hefyd yn gobeithio gallu cysylltu ychydig mwy gyda'i hochr Gymreig.

"Yn amlwg, ges i fy ngeni a fy magu yng Nghaerdydd, ond dwi wastad wedi bod yn agos iawn at ochr fy nhad sydd o Jamaica. Mae yna rei ardaloedd yng Nghymru lle dwi erioed wedi cael y cyfle i ymweld â nhw."

Bydd y ddwy yn mynd i Ddeiniolen i ddechrau eu taith cyn mynd ymlaen i Storiel ym Mangor lle y byddant yn cwrdd â'r arlunwyr Audrey West a Gareth Griffith sydd wedi creu arddangosfa yno yn cysylltu Cymru gyda Jamaica.

Bydd y ddwy yna yn mynd yn eu blaen i Lyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn mynd drwy gasgliad o recordiau Cymraeg, yn ogystal â chael cyfle i wrando ar gerddoriaeth reggae Gymraeg. 

Yn ystod y rhaglen, bydd Aleighcia hefyd yn cael y cyfle i gyfansoddi cân newydd gyda Eädyth Crawford yng Nghastell Aberteifi, gyda Aleighcia yn cael y cyfle i ysgrifennu'r geiriau y mae hi wedi eu dysgu ar hyd y daith. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.