Dominic Cummings: Boris Johnson 'ddim yn addas' i arwain drwy bandemig

Mae Dominic Cummings wedi dweud wrth un o bwyllgorau dethol y senedd nad oedd yn credu fod Boris Johnson "yn addas i'r swydd" o arwain y wlad drwy bandemig.
Mewn sesiwn dystiolaeth i Gyd-bwyllgor Dethol Technoleg a Gwyddoniaeth a Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ'r Cyffredin ddydd Mercher, fe gododd Mr Cummings gwestiynau hefyd am ran ysgrifennydd iechyd Llywodraeth y DU yn yr ymdrech i reoli'r pandemig.
Mae'r cyd-bwyllgor yn edrych ar unrhyw wersi all gael eu dysgu o ymateb llywodraeth San Steffan i'r pandemig.
Dywedodd Mr Cummings y dylai fod Matt Hancock wedi cael ei ddiswyddo "am ddweud celwydd" wrth i weinidogion ddelio gyda'r pandemig.
Yn ôl Mr Cummings, roedd uwch swyddogion eraill hefyd wedi galw ar y Prif Weinidog i ddiswyddo Matt Hancock am "o leiaf 15-20 o bethau, gan gynnwys dweud celwydd" meddai Sky News.
Mewn ymateb, dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Hunt AS, fod angen i Mr Cummings ddarparu tystiolaeth i brofi ei honiadau a bod yr honiadau'n "rhai difrifol iawn oedd wedi eu gwneud o dan fraint seneddol".
Fe fydd Mr Hancock yn ymddangos o flaen y cyd-bwyllgor dethol ymhen pythefnos.
Dywedodd llefarydd ar ran Boris Johnson fod gan y prif weinidog bob ffydd yn Matt Hancock, ac roedd yn credu ei fod wedi dweud y gwir.
Ychwanegodd Dominic Cummings, cyn-brif gynghorydd Boris Johnson wrth aelodau'r pwyllgor bod y llywodraeth "wedi gadael y cyhoedd i lawr" yn ystod dechrau 2020.
Ar ddechrau'r sesiwn, ymddiheurodd Mr Cummings i deuluoedd y bobl a fu farw yn nyddiau cynnar y pandemig am fethiannau'r llywodraeth a'i fethiannau ei hun wrth geisio ymdopi gyda'r argyfwng.
Yn y cyfamser dywedodd Boris Johnson nad oedd wedi clywed yr hyn yr oedd gan Mr Cummings i'w ddweud wrth y pwyllgor.
Ychwanegodd llefarydd fod gan y prif weinidog bob ffydd yn Matt Hancock ac nad oedd yn credu ei fod wedi dweud celwydd:
"Mae'r Gweinidog Iechyd wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Prif Weinidog drwy gydol y pandemig ac mae wedi canolbwyntio'n llawn ar amddiffyn y system iechyd a gofal, ag achub bywydau."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Matt Hancock bod "ef a’i adran yn Whitehall ar bob achlysur wedi gweithio yn galed dros ben o dan amodau digynsail i warchod y gwasanaeth iechyd ac i achub bywydau."
Ychwanegodd eu bod yn gwadu honiadau Dominic Cummings, gan ddweud y bydd yr Ysgrifennydd Iechyd yn “parhau i weithio gyda’r Prif Weinidog i ddarparu’r brechlyn a chefnogi’r gyfundrefn gofal ac iechyd.”
Darllenwch y stori'n llawn yma.