Casglwr sbwriel o Gymru wedi ei greu ar ffurf tegan er mwyn dathlu cyfraniad gweithwyr y cyngor

Mae undeb wedi creu teganau o weithwyr cyngor er mwyn dathlu a gwerthfawrogi'r gwaith maen nhw'n ei wneud.
Ymysg y pedwar 'action figure' mae'r casglwr sbwriel 33 oed o Gastell Nedd, Richard Brace.
Mae ffigwr Richard, sydd yn ei wisg gwaith ac yn dal bin olwyn yn un o bedwar tegan sydd wedi ei greu.
Dywedodd ei fod wrth ei fodd gyda'r tegan a bod pobl yn "cymryd gweithwyr cyngor yn ganiataol."
"Ond unwaith maen nhw'n siarad gyda ni a deall beth y'n ni'n ei wneud, maen nhw'n ein gwerthfawrogi ni," meddai.
Ymroddiad
Ers naw mlynedd mae Richard wedi bod yn gweithio i Gyngor Castell Nedd Port Talbot, ac er bod y swydd yn gallu bod yn anodd mae'n mwynhau bob eiliad, meddai.
"Ry'n ni dan straen meddyliol ac yn gorfforol, oherwydd weithiau ry'n ni'n cael amser anodd gan rai aelodau o'r cyhoedd.
"Ond dwi wir yn mwynhau fy swydd. Dwi'n caru'r ffigwr. Mar wedi bod yn llawer o hwyl i weithio ar hwn."
'Angerddol'
Mae'r ffigyrau wedi cael eu creu trwy ddefnyddio technoleg printio 3D ac mae'r gwaith dylunio wedi cael ei wneud gan artist comig Marvel.
Nid yw'r ffigyrau ar gael i'w prynu, ond dywedodd llefarydd ar ran Unsain mae'n bosib y bydden nhw yn cael eu harddangos yn y dyfodol agos.
Dywedodd swyddog rhanbarthol Unsain Cymru, Dominic MacAskill fod ymroddiad gweithwyr cyngor yn anhygoel.
"Mae gweithwyr y cyngor yn angerddol iawn dros eu rôl wrth galon cymunedau. Ond yn aml iawn mae eu cyfraniadau yn cael eu hesgeuluso, sydd yn gallu bod yn rhwystredig i weithwyr allweddol sydd eisiau gwneud bob dim maen nhw'n gallu i ein helpu."
Llun: UNISON