Asiantaeth luniau'n gwadu fod ffotograffwyr wedi peryglu diogelwch y Tywysog Harry a'i wraig

Mae amheuon wedi codi am ddatganiad llefarydd ar ran y Tywysog Harry a’i wraig Meghan, oedd yn honni y bu bron i'r ddau gael damwain "drychinebus" wrth gael eu herlid gan aelodau o'r paparazzi yn Efrog Newydd.
Honodd y llefarydd i gar y cwpwl gael ei ddilyn gan paparazzi nos Fawrth wedi iddyn nhw fod mewn seremoni wobrwyo.
Roedd mam Meghan hefyd yn y car ar y pryd, meddai, ac roeddynt wedi cael "eu dilyn yn ddi-baid am dros ddwy awr.
"Fe wnaeth hyn bron iawn ag achosi sawl gwrthdrawiad, gan gynnwys gyda gyrwyr eraill, cerddwyr a dau swyddog o Heddlu Efrog Newydd."
Ond mewn datganiad nos Fercher, dywedodd asiantaeth luniau Backgrid, oedd yn cyflogi ffotograffwyr yn ystod y digwyddiad mai cerbyd oedd yn rhan o drefniadau diogelwch y tywysog a'i wraig oedd yn gyrru'n wyllt: "Mae'r ffotograffwyr yn adrodd bod un o'r pedwar cerbyd SUV oedd yn hebrwng y Tywysog Harry yn gyrru mewn modd y gellid ei ystyried yn ddi-hid.
"Mewn un fideo, mae'n cael ei ddangos yn cael ei dynnu drosodd gan yr heddlu.
"Rydyn ni'n deall bod gan swyddogion diogelwch y Tywysog Harry a Meghan Markle swydd i'w gwneud, ac rydyn ni'n parchu eu gwaith.
"Fodd bynnag, rydyn ni am nodi, yn ôl y ffotograffwyr a oedd yn bresennol, nad oedd unrhyw wrthdrawiadau agos neu ddamweiniau agos.
"Mae'r ffotograffwyr wedi adrodd eu bod yn teimlo nad oedd y cwpl mewn perygl uniongyrchol ar unrhyw adeg."
Dyweodd Heddlu Efrog Newydd nad oedd unrhyw adroddiadau wedi eu nodi iddynt yn ymwneud â'r digwyddiad honedig.
“Roedd yna nifer o ffotograffwyr a wnaeth eu taith yn heriol,” meddai Julian Phillips ar ran y llu mewn datganiad.
“Cyrhaeddodd Dug a Duges Sussex eu cyrchfan ac ni adroddwyd am wrthdrawiadau, anafiadau nac arestiadau.”