Disgwyl prysurdeb yn y brifddinas wrth i Beyoncé berfformio yng Nghaerdydd

Bydd Beyoncé yn perfformio yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd nos Fercher wrth i'r seren fyd-enwog barhau â'i thaith o gwmpas y byd.
Dyma fydd ei pherfformiad cyntaf o'i thaith yn y DU, cyn iddi berfformio mewn saith lleoliad arall ar draws gwledydd y Deyrnas Unedig.
Dechreuodd y gantores ei thaith fyd eang Renaissance yn Stockholm yn Sweden ar 10 Mai cyn teithio i Frwsel ar 14 Mai.
Wedi'r cymal Ewropeaidd, bydd hi'n parhau â'i thaith yng Nghanada a'r Unol Daleithiau yn ystod yr haf a'r hydref.
Fe berfformiodd ddiwethaf yn Stadiwm y Principality ym Mehefin 2018, a hynny gyda'i gŵr, y canwr Jay-Z. Ond dyma yw'r tro cyntaf iddi berfformio ar ei phen ei hun ers chwe blynedd.
Bydd nifer o ffyrdd wedi eu cau yn sgil y cyngerdd nos Fercher, gyda lonydd yng nghanol y brifddinas yn cau o tua 16:00 tan 00:00.
Mae teithwyr o gymoedd y de sy’n bwriadu mynd i'r cyngerdd yn cael eu hannog i neilltuo digon o amser ar gyfer eu taith, gan mai bysiau yn hytrach na threnau a fydd yn eu cludo yno.
Oherwydd gwaith peirianyddol ar system Metro De Cymru, ni fydd unrhyw drenau i'r gogledd o Bontypridd (Rheilffyrdd Treherbert a Merthyr Tudful) ac Aberpennar (Rheilffordd Aberdâr) drwy ddydd Mercher.
Fe wnaeth Beyoncé dorri record Gwobrau'r Grammys eleni wedi iddi ennill ei 32ain gwobr yn y seremoni yn Los Angeles ym mis Chwefror.