Newyddion S4C

Y morfil

Morfil ar draeth yng Ngwynedd ‘yn arwydd fod y byd yn newid’

Mae morfil a fu farw ar draeth yng Ngwynedd yn “arwydd fod y byd yn newid o’n cwmpas ni” yn ôl ymchwilwyr.

Roedd y Rhaglen Ymchwilio i Forfilod Sy’n Cael eu Golchi i'r Lan wedi cynnal awtopsi ar y morfil ym Mhorth Neigwl.

Dyma’r ail forfil sberm yn unig i olchi i’r lan yng Nghymru dros y ganrif ddiwethaf, medden nhw.

Bu farw ar 8 Mai.

Dywedodd y tîm ymchwilio mai dyma’r morfil sberm mwyaf tenau iddyn nhw ei astudio erioed.

“Roedd y morfil mewn cyflwr hynod o wael,” medden nhw, gan ddweud bod “asennau’n ymwthio” o gorff y morfil.

“Roedd cyhyrau’r morfil wedi crebachu.” 

Ychwanegodd yr ymchwilwyr fod yna “gwestiynau ehangach ynglŷn â pham bod y morfil wedi cyrraedd y rhanbarth”.

“O ystyried bod yr holl ddigwyddiadau hyn sydd y tu hwnt i’r arfer wedi digwydd dros y degawd diwethaf, mae’n fwy eto o dystiolaeth fod y byd yn newid o’n cwmpas.”

Dywedodd y tîm ymchwilio bod saith o forfilod wedi eu golchi i'r lan yn y DU ers dechrau mis Ebrill, a dau ohonyn nhw'n forfilod sberm.

Llun: Cetacean Strandings Investigation Programme- UK strandings.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.