Starmer eisiau dilyn Cymru a gadael i fwy o bobl bleidleisio

Mae Keir Starmer wedi dweud ei fod eisiau dilyn Cymru a gadael i fwy o bobl bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol.
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur ei fod yn gwneud “synnwyr cyffredin” caniatáu i bobol sy’n byw ym Mhrydain ond o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd i bleidleisio.
Awgrymodd hefyd nad oedd gostwng yr oed bleidleisio i 16 yn “syniad mor rhyfedd â hynny”.
Penderfynodd Cymru yn 2019 y dylai pobl ifanc 16 ac 17 gael yr hawl i bleidleisio.
Roedd y newidiadau hefyd yn rhoi’r hawl i ddinasyddion tramor sy'n byw yng Nghymru bleidleisio.
Ond dim ond etholiadau sydd wedi eu rheoli gan Senedd Cymru - rhai'r Senedd ei hun a chynghorau lleol - gafodd eu heffeithio gan y newidiadau.
Cyfeiriodd Keir Starmer at esiampl Cymru a dweud ei fod yn “teimlo’n anghywir” nad yw pobol sydd wedi cyfrannu at economi'r DU yn cael pleidleisio.
“Os ydi rhywun wedi bod yma ers 10, 20 neu 30 mlynedd, wedi cyfrannu at yr economi ac yn rhan o’r gymuned, fe ddylen nhw allu pleidleisio,” meddai.
‘Ymyraeth’
Dywedodd cadeirydd y Blaid Geidwadol, Greg Hands, ei fod yn “gywir” mai dim ond dinasyddion y DU oedd yn cael pleidleisio.
Ychwanegodd fod Keir Starmer yn ceisio “ymyrryd â'r etholaeth er mwyn ail ymuno â’r Undeb Ewropeaidd”.
“Does yr un wlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd ddim yn gadael i unigolion o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd bleidleisio yn eu hetholiadau,” meddai.