Newyddion S4C

Seiclon Mocha

Storm nerthol yn taro arfordiroedd Bangladesh a Myanmar

NS4C 14/05/2023

Mae storm nerthol wedi taro arfordir Bangladesh a Myanmar.

Mae rhybudd y gall y gwynt o Seiclon Mocha hyrddio hyd at 120 milltir yr awr gan arwain at lifogydd ym Mae Bengal, ac mae tua 500,000 o bobl wedi cael eu symud i ardaloedd mwy diogel yn y rhanbarth.

Mae disgwyl i'r storm effeithio ar rannau gogleddol Myanmar, gan gynnwys taleithiau Rakhine a Chin, yn ogystal â rhanbarthau Magway a Sagaing ymhellach i mewn i'r tir a Rhanbarth Delta Ayeyarwaddy ymhellach i'r de.

Mae ardal Rakhine yn un isel ac yn agored iawn i lifogydd, gyda channoedd o filoedd o bobl yn byw mewn amodau ansicr.

Yn ddiweddarach disgwylir i law trwm a gwyntoedd cryfion daro cymunedau mewndirol yn y Gogledd-orllewin, sydd hefyd mewn perygl o ddioddef llifogydd a thirlithriadau.

Dywedodd Nadia Khoury, Pennaeth Ffederasiwn Rhyngwladol y Groes Goch ym Myanmar: "Bydd anghenion pwysig o ran tai brys, mynediad at ddŵr yfed diogel a hylendid, a bydd angen rhoi sylw i’r rhai sydd wedi’u dadleoli, tra’n sicrhau ymgysylltu cymunedol ac atebolrwydd yn yr ymateb.

"Bydd mynediad at wybodaeth y gellir ymddiried ynddi, helpu i aduno teuluoedd sydd wedi'u gwahanu ac atgyfeiriadau ar gyfer gwasanaethau arbenigol yn allweddol.

"Mae Ffederasiwn Rhyngwladol y Groes Goch a'i bartneriaid yn parhau i gefnogi Croes Goch Myanmar yn weithredol, mewn cydweithrediad â'r gymuned ddyngarol ehangach.

"Gallwn ddisgwyl ymateb dyngarol sylweddol."

Llun: Ffederasiwn Rhyngwladol y Groes Goch ym Myanmar

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.