Newyddion S4C

Rhian O'Sullivan

Dartiau: Rhian O'Sullivan y fenyw gyntaf o Gymru i ennill teitl y PDC

NS4C 14/05/2023

Rhian O'Sullivan yw'r fenyw gyntaf o Gymru i ennill cystadleuaeth dartiau'r PDC.

Enillodd y chwaraewr dartiau 42 oed o Lanelli Gyfres y Menywod ym Milton Keynes ddydd Sadwrn.

Dyma'r tro cyntaf i fenyw o Gymru gipio'r teitl, a bu'n rhaid iddi guro rhai o oreuon y gamp i sicrhau hynny.

Enillodd 5-0 yn erbyn Mikuru Suzuki yn y rownd agoriadol, cyn curo Carly Townsend, Aoife McCormack, Juliane Birchall ac Angela Kirkwood i sicrhau lle yn rownd yr wyth olaf.

Roedd O'Sullivan yn fuddugol eto yn y rownd honno gan guro Anca Zijlstra 5-0, cyn curo Trina Gulliver, sydd wedi ennill Pencampwriaeth Dartiau'r Byd i fenywod 10 o weithiau.

Beau Greaves oedd y gwrthwynebydd yn y rownd derfynol, sef yr ail chwaraewr dartiau menywod gorau yn y byd.

Er i'r Gymraes fod ar ei hôl hi o 3-2, fe wnaeth O'Sullivan frwydro'n ôl i drechu Greaves 5-3 a sicrhau'r teitl.

Mae O'Sullivan nawr yn y trydydd safle yn y gynghrair, gyda'r ddwy uchaf ar ddiwedd y tymor yn cymhwyso i chwarae ym Mhencampwriaeth y Byd i'r dynion.

Mae ei buddugoliaeth ddydd Sadwrn yn sicrhau ei lle ym mhencampwriaeth Betfred World Matchplay ym mis Gorffennaf.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.