Achub rhedwyr oedd wedi eu hanafu yn ystod ras heriol 100km yn Eryri

Cafodd aelodau o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw i achub rhedwyr oedd yn rhan o ras heriol 100km UTMB Eryri ddydd Sadwrn.
Roedd y cymal yn Eryri yn rhan o gyfres o rasys UTMB ar draws y byd sydd yn denu rhedwyr o bedwar ban byd i gystadlu.
Roedd 2,851 o redwyr yn cystadlu yn ras Eryri eleni, ac fe wnaeth sawl un ddioddef anafiadau wrth redeg y llwybrau ar hyd y mynyddoedd.
Mewn datganiad ddydd Sul, dywedodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu bod wedi derbyn galwad am 09:25 ddydd Sadwrn yn dilyn adroddiadau bod un o'r rhedwyr wedi torri ei ben-glin ar lethrau'r Glyder Fawr.
Roedd y rhedwr wedi llithro ac wedi cael anaf i'w ben-glin fel bod modd gweld yr asgwrn. Roedd rhedwr arall wedi ceisio trin yr anaf ond bu'n rhaid i'r rhedwr a ddioddefodd yr anaf roi'r gorau i'r ras.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd gan hofrennydd Gwylwyr y Glannau er mwyn derbyn triniaeth.
Fe wnaeth y tîm achub mynydd dderbyn galwad arall ger y Carneddau am 15:00 wedi i redwr ddisgyn a dioddef anaf.
Teithiodd swyddogion i Garnedd Llewelyn lle cafodd y rhedwr ei drin am gleisiau. Roedd yn gallu parhau gyda'r ras tan iddo gwympo eto ger Blwch Eryri Farchog a thorri ei ffêr.
Cafodd gymorth gan un o swyddogion y ras a ddaeth i'r casgliad fod yr anaf mor ddifrifol fel bod perygl y gallai golli ei goes. Anfonodd lun o'r anaf i feddyg ac fe dderbyniodd gyngor i symud y rhedwr o'r mynydd ar frys.
Cafodd yr heddlu eu galw i helpu gyda chludo'r rhedwr i Ysbyty Gwynedd.
Llun: Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen