Newyddion S4C

Gwelliannau i Ŵyl Fwyd Caernarfon wrth i'r digwyddiad dyfu

13/05/2023

Gwelliannau i Ŵyl Fwyd Caernarfon wrth i'r digwyddiad dyfu

Bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn dychwelyd ddydd Sadwrn ac mae’r pwyllgor trefnu wedi dweud y bydd gwelliannau wedi eu gwneud ar ôl dysgu gwersi o'r blynyddoedd blaenorol. 

Mae'r ŵyl yn cael ei threfnu gan bwyllgor gwirfoddol sy'n cyfarfod drwy'r flwyddyn er mwyn cynnal yr ŵyl ar strydoedd Caernarfon ym mis Mai. 

Er fod yr ŵyl y llynedd wedi bod yn llwyddiant ysgubol, roedd rhai gwelliannau i’w gwneud meddai’r pwyllgor. 

“Ar ôl yr ŵyl fwyd llynedd nathon ni neud arolwg a gafon ni dipyn o ymateb, felly mae ‘na ambell beth yn newid eleni,” meddai Osian Owen, sydd ar y pwyllgor. 

“Da ni’n cael gwydrau sydd yn medru cael eu hail ddefnyddio - a symud i fod yn fwy ecogyfeillgar.

“Mae ‘na fwy o bethau i blant eleni hefyd, mae ‘na ardal blant yn Llety Arall. Mae 'na fwy o drafnidiaeth, adloniant, pedwar llwyfan a fydd na fwy o doiledau.”

'Mwy o fwyd'

Fe wnaeth nifer enfawr o bobl wnaeth fynychu’r ŵyl y llynedd olygu bod ciwiau hir am fwyd, ond eleni bydd 4o stondin yn lle 24. 

“Llynedd ddoth na swm anhygoel o bobl i’r ŵyl, felly oedd na giwiau i’r bwyd stryd ond eleni da ni wedi mwy na dyblu nifer y stondinau bwyd parod, felly gobeithio bod y broblem yna wedi ei sortio,” ychwanegodd Osian. 

“Da ni wedi paratoi i’r posibilrwydd y bydd cymaint â llynedd yn ymweld, felly mae 'na groeso i bawb a ma’r tywydd yn edrych yn addawol iawn.

“Da ni yn annog i bawb sydd yn medru i neud defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae mwy o drafnidiaeth wedi ei drefnu eleni.” 

Bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn dechrau am 10.00 fore Sadwrn ac yn gorffen am 17.00. 

Llun: @GwylFwyd 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.