Newyddion S4C

Hwlffordd a'r Drenewydd yn brywdro am y safle olaf yn rowndiau rhagbrofol Ewrop

Sgorio 13/05/2023
hwlffordd drenewydd

Brynhawn Sadwrn bydd tymor y Cymru Premier JD 2022/23 yn dod i ben wrth i’r Drenewydd a Hwlffordd gyfarfod yng ngêm ola’r calendr pêl-droed yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.

Bydd enillwyr y rownd derfynol yn ymuno gyda’r Seintiau Newydd, Cei Connah a Phen-y-bont drwy gynrychioli Cymru yn rowndiau rhagbrofol Ewrop dros yr haf.

Y Drenewydd (6ed) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C)

Mi fydd hi’n dipyn o achlysur ar Barc Latham brynhawn Sadwrn gyda’r Drenewydd a Hwlffordd yn cystadlu am y tocyn olaf i Ewrop.

Mae carfan Y Drenewydd yn hen bennau ar chwarae’n Ewrop bellach, ac yn gobeithio cadarnhau eu lle am y trydydd tymor yn olynol.

Ac felly Hwlffordd yw’r ‘underdogs’ gyda’r Adar Gleision yn anelu i gyrraedd Ewrop am dim ond yr eildro yn eu hanes ac am y tro cyntaf ers 20 mlynedd.

Dyma’r trydydd tro i’r ddau ddetholion isaf gyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle ar ôl curo timau oedd uwch eu pennau yn y rownd gynderfynol, a bydd Hwlffordd yn gobeithio bod y pedwerydd clwb i ennill y gemau ail gyfle ar ôl gorffen y tymor yn y 7fed safle (Y Bala 12/13, Met Caerdydd 18/19, Y Drenewydd 20/21).

Ar ôl gorffen y tymor ar frig y Chwech Isaf mae Hwlffordd yn cystadlu yn y gemau ail gyfle am y tro cyntaf erioed, ac wedi perfformiad arbennig gan y golwr Zac Jones yn y rownd gynderfynol, dyw’r clwb o Sir Benfro ond un cam i ffwrdd o gyrraedd Ewrop.

Zac Jones oedd yr arwr yn y gêm ddi-sgôr rhwng Hwlffordd a Met Caerdydd ar Gampws Cyncoed ddydd Sadwrn, yn arbed cic o’r smotyn yn ystod y gêm, cyn arbed dwy arall wedi amser ychwanegol i yrru tîm Tony Pennock ymlaen i’r ffeinal.

Mae’r Drenewydd wedi cyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle am y trydydd tro yn eu hanes, ac ar ôl ennill eu dwy ffeinal flaenorol bydd y Robiniaid yn hyderus o groesi’r linell eto eleni.

Enillodd Y Drenewydd y gemau ail gyfle yn nhymor 2014/15 i gyrraedd Ewrop am y trydydd tro yn eu hanes, ac am y tro cyntaf ers 1998 ar ôl gorffen yn 6ed a churo Aberystwyth yn y rownd derfynol ar Goedlan y Parc (Aber 1-2 Dre).

Yna wedi chwe mlynedd o fwlch, fe ddychwelodd y Robiniaid i Ewrop drwy ennill y gemau ail gyfle yn 2020/21 ar ôl gorffen yn 7fed - yn curo Caernarfon mewn rownd derfynol gyffrous ar yr Oval (Cfon 3-5 Dre), cyn gorffen yn 3ydd y tymor canlynol i gyrraedd Ewrop am y pumed tro.

Ers troad y flwyddyn dyw’r Drenewydd ond wedi ennill tair allan o’u 14 gêm, a daeth y dair fuddugoliaeth hynny yn erbyn Y Bala gyda’r diweddaraf o’r rheiny yn dod y penwythnos diwethaf yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle.

Sgoriodd golwr Y Bala, Harri Lloyd ddwy gôl i’w rwyd ei hun gyda Aaron Williams a Zeli Ismail hefyd yn rhwydo i sicrhau buddugoliaeth weddol gyfforddus i’r Drenewydd ar Faes Tegid nos Wener (Bala 2-4 Dre).

Mae’r record benben diweddar yn ffafrio’r Drenewydd gan i dîm Chris Hughes guro Hwlffordd ddwywaith yn rhan gynta’r tymor, a dyw’r Robiniaid ond wedi colli un o’u naw gêm gartref ddiwethaf yn erbyn yr Adar Gleision.

Ond ‘momentwm’ ydi’r gair hud wrth drafod y gemau ail gyfle, ac mae hwnnw’n sicr ar ochr Hwlffordd am eu bod ar rediad o wyth gêm heb golli (ennill 6, cyfartal 2).

A’i Hwlffordd fydd y 10fed clwb gwahanol i ennill gemau ail gyfle y Cymru Premier JD, neu ai’r Drenewydd fydd y clwb cyntaf erioed i ennill y gemau ail gyfle deirgwaith...?

Bydd y gêm yn fyw ar S4C am 17:00 yng nghwmni Sioned Dafydd, Dylan Ebenezer a Malcolm Allen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.