Apelio am wybodaeth wedi i graffiti hiliol, homoffobig a gwrth-Semitaidd ymddangos yn Aberaeron

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i graffiti hiliol, homoffobig a gwrth-Semitaidd ymddangos yn Aberaeron.
Cafodd graffiti hiliol, homoffobig a gwrth-Semitaidd ei chwistrellu mewn dau leoliad yn y dref yn ddiweddar medd Heddlu Dyfed-Powys.
Fe wnaeth y graffiti ymddangos ar loches ger yr afon sydd yn cael ei adnabod fel y 'Duck Stop' yn lleol.
Yr ail leoliad oedd y ffynnon sydd ar ochr arall yr afon ger Cylch Aeron.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn credu bod y graffiti wedi cael ei chwistrellu rhwng 28 Ebrill a 4 Medi.
Mae'r llu yn gofyn am unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gan ddyfynnu rhif achos DPP/6671/04/05/2023/02/H.