Newyddion S4C

Mae’r hen afr yn crwydro: Cymeradwyo cynllun newydd i geisio rheoli geifr Llandudno

Gafr wen, wen, wen. Ie finwen, finwen, finwen.

Mae Cyngor Conwy wedi cymeradwyo cynllun newydd i geisio rheoli 153 o eifr sy'n crwydro ardal Llandudno.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys atal cenhedlu, monitro, bugeilio, a symud rhai o’r geifr i rywle arall.

Mae geifr Llandudno yn anrheg gan yr Arglwydd Mostyn i’r Frenhines Fictoria ac maen nhw wedi bod yn wyllt ers dros 100 mlynedd.

Ond wedi iddyn nhw redeg yn wyllt drwy dref Llandudno yn ystod clo mawr Covid, mae’r cyngor wedi bod yn edrych ar ffyrdd o’u rheoli.

Ond gwrthododd y cyngor gynllun i gaethiwo geifr Llandudno y tu ôl i ffens fis diwethaf gan ofni y byddai yn golygu bod yr anifeiliaid gwyllt yn gyfreithiol yn eiddo iddyn nhw.

Fe fyddwn nhw bellach yn cydweithio gydag Ystadau Mostyn, Cyfoeth Naturiol Cymru, y RSPCA a chyngor tref Llandudno er mwyn edrych ar ôl yr eifre.

'Cyfrifoldeb ar neb'

Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey bod y geifr bellach yn “sêr rhyngwladol”.

“Maen nhw’n symbol o’r dref y mae pobl yn ei garu, ond mae yna lawer iawn o oblygiadau o ran rheoli'r geifr, sicrhau diogelwch ar y ffyrdd, a’u hatal nhw rhag bod yn niwsans,” meddai.

“Y peth pwysig i’w nodi yw eu bod nhw’n anifeiliaid gwyllt a ddim yn gyfrifoldeb ar neb.”

O ganlyniad, mae’n nodi yn y cynllun newydd mai cyfrifoldeb perchnogion yw gwarchod eu tir eu hunain rhag y geifr.

Llun: Gafr wen, wen, wen. Gan Llywelyn2000 (CC BY-SA 4.0).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.