Cynllun i osod adweithydd niwclewar ‘bach’ yn Nhrawsfynydd ‘ar y blaen i bob safle arall’

Mae cwmni sy’n gobeithio gosod adweithydd niwclear ‘bach’ yn Nhrawsfynydd wedi dweud fod eu cynlluniau ar y blaen i bob safle arall.
Dywedodd Cwmni Egino sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru eu bod nhw wedi cwblhau rhan gyntaf y gwaith sef sicrhau y bydd modd gosod Adweithyddion Modiwl Bach (SMR) yn Nhrawsfynydd.
Fe wnaeth Trawsfynydd stopio cynhyrchu trydan yn 1991 ar ôl bod yn weithredol am 25 mlynedd ac mae'r safle yn y broses o gael ei ddadgomisiynu.
Ar hyn o bryd, mae Magnox yn cyflogi bron i 300 o bobol yno ac mae yna drafodaethau diweddar wedi bod ynghylch adeiladu adweithydd niwclear newydd.
Dywedodd Alan Raymant, Prif Weithredwr Cwmni Egino ei bod nhw’n gobeithio mai Trawsfynydd fydd safle cyntaf adweithydd newydd.
Roedd angen “sicrwydd” gan Lywodraeth y DU mai dyna un o’r safleoedd oedden nhw am ei datblygu, meddai.
“Mae ein cynlluniau yn fwy datblygedig na safleoedd eraill sy’n addas ar gyfer ynni niwclear ar raddfa fach,” meddai.
“Mae’r gwaith rydym wedi’i wneud dros y 12 mis diwethaf yn rhoi hyder ychwanegol i ni y gallwn gyflawni prosiect llwyddiannus yn Traws.
“R’yn ni eisoes wedi rhoi rhaglen ddatblygu pum mlynedd ar waith sy’n golygu y gall ein prosiect fod yn barod i’w gymeradwyo erbyn diwedd y ddegawd.
“Mae hynny’n yn unol ag uchelgeisiau Llywodraeth y DU o ran diogelwch ynni.”
‘Pwysig’
Roedd cwmni Rolls-Royce wedi dweud yn y gorffennol fod Trawsfynydd yn "ticio'r holl flychau" o ran arloesi gydag Adweithyddion Modiwl Bach.
Does dim cwmni wedi ei dewis i adeiladu'r Adweithydd Modiwl Bach yn Nhrawsfynydd eto.
Dywedodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething bod Cwmni Egino wedi “cwblhau cam cyntaf ei waith” yn Nhrawsfynydd.
“Mae cynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud tuag at wireddu uchelgais y cwmni i ddechrau lleoli adweithyddion modiwl bach ar y safle erbyn diwedd y ddegawd,” meddai.
“Mae'n hanfodol bwysig bod Great British Nuclear nawr yn ymgysylltu'n ystyrlon â Chwmni Egino fel bod Trawsfynydd yn cael ei ddewis fel y safle SMR cyntaf yn y DU.”