Newyddion S4C

Dedfrydu dyn ifanc o Lanelli am daro dyn oedrannus gyda beic modur

09/05/2023
cctv

Mae bachgen yn ei arddegau a reidiodd feic sgramblo y ffordd anghywir i fyny stryd un ffordd cyn taro dyn yn ei 90au wedi ei ddedfrydu i 12 mis mewn canolfan i droseddwyr ifanc.

Fe wnaeth Bradley Taylor edrych ar y dyn 94 oed wrth iddo orwedd ar y ffordd, yn gwaedu ac wedi ei anafu, cyn codi ei feic a reidio i ffwrdd, heb wneud unrhyw ymdrech i'w helpu medd yr heddlu.

Yn ystod ymholiadau’r heddlu, cafodd y dyn 19 oed wared ar dystiolaeth allweddol a fyddai’n ei gysylltu â’r digwyddiad.

Yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Dyfed-Powys, fe ddangosodd lluniau cylch cyfyng mai Taylor oedd yn gyfrifol.

Cafodd ei weld yn gwthio'i feic ar hyd sawl stryd yn Llanelli cyn ei reidio y ffordd anghywir i fyny'r stryd cyn y gwrthdrawiad.

Treuliodd y dyn oedrannus naw wythnos yn yr ysbyty cyn iddo allu mynd adref.

'Bywyd gweithgar'

Mewn datganiad, ychwanegodd Heddlu Dyfed-Powys: "Cyn y digwyddiad, roedd yn byw bywyd gweithgar ac annibynnol, yn nofio yn y môr, yn tyfu llysiau iddo'i hun a'i gymdogion, ac yn dawnsio sawl gwaith yr wythnos.

"Mewn datganiad, eglurodd nad yw bellach yn gallu gwneud y pethau yr oedd yn eu caru, bod yn rhaid iddo ddibynnu ar bobl eraill, a bod methu â cherdded i’w ardd wedi ‘torri ei galon’."

Cyfaddefodd Taylor i achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus, methu â stopio ar ôl gwrthdrawiad, methu ag adrodd am wrthdrawiad, a gyrru heb yswiriant.

Ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher, 3 Mai, pan gafodd ei ddedfrydu i 12 mis mewn canolfan i droseddwyr ifanc.

Dywedodd PC Protheroe, o Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol Heddlu Dyfed-Powys: “Roedd hwn yn ddigwyddiad difrifol, a gafodd ei wneud yn fwy ysgytwol fyth gan ddiffyg pryder ac edifeirwch Bradley Taylor yn y lleoliad.

“Mae lluniau teledu cylch cyfyng yn dangos yn glir bod y dioddefwr oedrannus wedi’i anafu, ond dewisodd Taylor reidio i ffwrdd heb geisio helpu na galw am ambiwlans.

“Mae bywyd y dioddefwr wedi’i newid yn llwyr gan yr hyn a ddigwyddodd ar 6 Mawrth. Mae ei annibyniaeth wedi’i ddwyn, mae’n dioddef gyda hunllefau, ac mae wedi colli’r gallu i wneud y pethau mae’n eu caru.

“Er gwaethaf gorfod dod i delerau â’r effaith sylweddol y mae’r digwyddiad wedi’i gael ar ei fywyd, mae wedi dangos cryfder aruthrol drwy gydol ein hymchwiliad, a hoffwn ddiolch iddo am ei gefnogaeth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.