Newyddion S4C

Prifwyl 2026: Cyngor Sir Fynwy yn cyflwyno cais ffurfiol i'w gwahodd

Prifwyl 2026: Cyngor Sir Fynwy yn cyflwyno cais ffurfiol i'w gwahodd

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gwneud cais swyddogol i wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ôl i’r rhanbarth yn 2026. 

Yn dilyn llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni yn 2016, mae’r cyngor eisiau gwahodd yr ŵyl yn ôl i’r sir ddegawd yn ddiweddarach, er mwyn hybu’r iaith a’r diwylliant mewn ardal lle “nad oes llawer o siaradwyr Cymraeg.”

Wrth siarad â Newyddion S4C cadarnhaodd y cynghorydd sir, Tudor Thomas, bod cais ffurfiol wedi ei gyflwyno i’r Eisteddfod er mwyn cynnal yr ŵyl yn y rhanbarth. 

Dywedodd: “Ar ôl yr Eisteddfod Genedlaethol ‘odd shwd gymaint o ddiddordeb yn yr iaith a’r diwylliant Gymraeg a nifer o bobl yn dechrau dysgu Cymraeg. 

“'Odd mor boblogaidd trwy’r dre yn y Fenni ond hefyd oedd yn boblogaidd trwy’r sir.”

Pwysigrwydd yr Eisteddfod mewn ardal ‘heb lawer o Gymraeg’ 

 Yn ôl Mr Thomas, mae’n holl bwysig bod y Brifwyl yn ymweld ag ardaloedd lle nad oes cymuned fawr o siaradwyr Cymraeg er mwyn hybu’r iaith. 

Ychwanegodd: “Wi’n credu ma fe’n bwysig i fynd i ardaloedd Cymraeg ond hefyd i ryw raddau, mae fe’n fwy pwysig i ddod i ardal fel Sir Fynwy sy' rhan fwyaf heb Gymraeg.

“Sa’r eisteddfod yn dod 'nôl byse’n neud lles i'r iaith a diwylliant ac mae hwnna’n bwysig bwysig i’r sir ac i ni fel pobl sy’n eistedd ar gyngor y sir – yn enwedig y prif weithredwr mae fe’n hollol croesawu'r ffaith bydden ni’n gallu cael yr Eisteddfod nol yn Sir Fynwy.”

Mae Cyngor Sir Fynwy yn ystyried Trefynwy a Chas-gwent fel trefi addas i'w chynnal. 

Wrth siarad am y cais, dywedodd Paul Mathews, Prif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy: “Croesawodd Sir Fynwy'r Eisteddfod ddiwethaf yn 2016. Roedd yn llwyddiant mawr a hoffai'r cyngor weld y digwyddiad yn dychwelyd. 

“Rydym yn obeithiol y bydd ein diddordeb yn cael ei weld mewn modd cadarnhaol.”

Fis Awst eleni, bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Llŷn ac Eifionydd ar faes ym Moduan, ac yna'n teithio i Rondda Cynon Taf yn 2025.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.