Newyddion S4C

Dinas Allen, Texas

Wyth o bobl wedi eu saethu'n farw yn yr UDA

NS4C 07/05/2023

Mae wyth o bobl wedi eu saethu’n farw mewn canolfan siopa yn ninas Allen ger Dallas yn nhalaith Texas.

Dywedodd yr heddlu yno eu bod nhw wedi saethu’r dyn a oedd yn gyfrifol yn farw a’u bod nhw'n credu ei fod wedi gweithredu ar ei ben ei hun.

Yn ôl adroddiadau mae nifer o blant ymhlith y rhai fu farw ac mae o leiaf saith o bobl yn cael triniaeth yn yr ysbyty.

Yn ôl awdurdodau’r ddinas roedd saith o bobl wedi marw yn y ganolfan siopa – gan gynnwys y saethwr a dau o bobl yn ddiweddarach yn yr ysbyty.

Mae oedrannau’r rhai fu farw yn amrywio o bump oed i 51 oed yn ôl llefarydd yn yr ysbyty.

Llun: Wochit

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.