Newyddion S4C

Sion Jones

Teyrnged teulu i ddyn 43 oed fu farw mewn gwrthdrawiad ger Wrecsam

NS4C 06/05/2023

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi enwi’r cerddwr fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghoedpoeth ger Wrecsam nos Fawrth.

Roedd Sion Jones yn 43 oed ac yn dod o ardal Coedpoeth.

Cafodd swyddogion eu galw i wrthdrawiad rhwng cerddwr a Ford Focus ar yr A525 am tua 21:50 a bu farw Sion Jones yn y fan a’r lle.

Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu: “"Gwasanaethodd Sion yng Nghatrawd 22 y Magnelwyr Brenhinol, The Welsh Gunners am bedair blynedd ac roedd yn gymeriad adnabyddus yng Nghoedpoeth,

"Roedd Sion yn dad, yn fab, ac yn frawd cariadus. Roedd ganddo natur garedig ac roedd yn adnabyddus i bawb wrth ei wên a fyddai'n goleuo ystafell.

"Rydym i gyd wedi ein syfrdanu gan ei farwolaeth. Roedd yn cael ei garu gan bob un ohonom a bydd colled fawr ar ei ôl."

Mae’r heddlu yn dal i apelio am unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio cyfeirnod 23000371708.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.