Parcio anghyfrifol yn Eryri yn ‘peryglu bywydau’ meddai’r heddlu

Mae’r heddlu wedi rhybuddio yn erbyn parcio “anghyfrifol a pheryglus” yn Eryri dros ŵyl y banc, gan ddweud ei fod yn “peryglu bywydau”.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod parcio peryglus wedi “atal mynediad i gerbydau’r gwasanaethau brys”.
Daw hyn wedi i bobol barcio ar ochor y ffyrdd achosi problemau dros Ŵyl y Banc y Pasg.
Bryd hynny bu’n rhaid symud degau o gerbydau o lwybrau cul a oedd wedi parcio yn “anghyfrifol”.
“Mae parcio anghyfrifol yn peryglu eich bywyd chi, yn peryglu bywyd cerddwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill,” meddai Heddlu Gogledd Cymru.
“Ni ddylai mynediad ar gyfer y gwasanaethau brys gael ei rwystro gan gerbydau sydd wedi’u gadael ar y lôn.”
‘Rhwystr’
Ychwanegodd yr heddlu: “Mae’r parcio anghyfrifol a pheryglus yr ydym eisoes wedi’i weld mewn ardaloedd megis Pen y Pas ac Ogwen, nid yn unig wedi peryglu bywydau, ond yn atal mynediad i gerbydau’r gwasanaethau brys.
“Bydd unrhyw gerbyd a ganfyddir wedi parcio ar glirffordd, llinellau melyn dwbl neu’n achosi rhwystr yn cael ei symud ar gost y gyrrwr.