Newyddion S4C

Protestwyr yn Sgwâr Trafalgar

Arestio Prif Weithredwr grŵp gwrth-Frenhiniaeth wedi protestiadau yn Llundain

NS4C 06/05/2023

Mae'r grŵp gwrth-Frenhiniaeth Republic wedi dweud bod eu Prif Weithredwr ymysg protestwyr sydd wedi eu harestio yn Llundain dydd Sadwrn.

Daw wedi i gannoedd o bobl ymgynnull yn Sgwâr Trafalgar i brotestio yn erbyn y coroni.

Dywedodd Republic fod eu Prif Weithredwr Graham Smith a phump arall wedi eu harestio.

Roedd y protestwyr wedi bod yn dal placardiau gyda’r geiriau “Nid fy Mrenin”.

Roedd rhai protestwyr wedi bod yn gwrthdaro yn eiriol gyda chefnogwyr y frenhiniaeth a oedd wedi ymgynnull yno, yn ôl PA.

Ddydd Mercher dywedodd Heddlu'r Met y byddai y trothwy ar gyfer gweithredu yn erbyn protestwyr yn "isel iawn".

Llun: Piroschka van de Wouw.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.