'Ymateb cyflym iawn' gan yr heddlu yn erbyn protestwyr y Coroni

Gall protestwyr sy'n ceisio amharu ar y Coroni ddisgwyl "ymateb cyflym iawn" gan yr heddlu, yn ôl swyddog blaenllaw.
Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol Heddlu'r Met Ade Adelekan ddydd Mercher na fydd y llu'n derbyn unrhyw weithgaredd droseddol yn ymwneud â phrotestio yn ystod y Coroni.
Bydd 11,500 o swyddogion yr heddlu ar ddyletswydd ddydd Sadwrn yn ogystal â 10,000 o weithwyr milwrol a fydd yn rhan o'r seremoni.
Bydd timau arbenigol yn parhau i fonitro'r torfeydd yng nghanol Llundain er mwyn adnabod unrhyw ymddygiad amheus.
Daw hyn wedi i ddyn gael ei arestio y tu allan i Balas Buckingham ddydd Mawrth am daflu bwledi dryll honedig i dir y palas.
Dywedodd Mr Adelekan mai blaenoriaeth y llu ydi "diogelwch pawb a fydd yn dod i'r digwyddiad hwn, ac rydym ni eisiau sicrhau y bydd pawb yn ei fwynhau.
"Mae gennym ni drothwy isel iawn ar gyfer unrhyw un neu unrhyw beth fydd yn amharu ar y digwyddiad a byddwch yn gweld ymateb cyflym iawn gennym ni."
Daeth cyfreithiau newydd yn erbyn protestwyr i rym ddydd Mercher cyn y seremoni ddydd Sadwrn.
O dan y Ddeddf Trefn Gyhoeddus newydd, bydd unrhyw brotestwyr sydd yn amharu ar ffyrdd yn wynebu hyd at 12 mis yn y carchar.
'Bygythiol'
Cafodd llythyr swyddogol a oedd yn rhybuddio am y grymoedd newydd yma ei yrru i'r grŵp gweriniaetholRepublic.
Dywedodd pennaeth y grŵp, Graham Smith, ei bod hi'n "rhyfedd iawn" fod y llythyr wedi ei yrru gan y Swyddfa Gartref, gan ei ddisgrifio fel un "bygythiol".
Ychwanegodd fod cynlluniau i 1,700 o bobl brotestio yn Sgwâr Trafalgar ddydd Sadwrn.
Mae disgwyl i gannoedd ar filoedd o bobl deithio i ganol Llundain ar gyfer y digwyddiad dros y penwythnos, gan gynnwys gwleidyddion ac enwogion o dramor.