Newyddion S4C

Llun o gar heddlu.

Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Wrecsam

NS4C 03/05/2023

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda char yng Nghoedpoeth, ger Wrecsam nos Fawrth.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng cerddwr a char Ford Focus ar ffordd yr A525 am 21.50.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw, ond bu farw'r cerddwr yn y fan a'r lle.

Mae'r crwner wedi cael gwybod.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi lansio ymchwiliad ac yn apelio am dystion.

Dywedodd Sarjant Nicola Laurie o Uned Plismona’r Ffyrdd: “Mae ein cydymdeimlad dwys gyda theulu a ffrindiau’r dyn ar hyn o bryd.

“Rydym yn ddiolchgar i’r rhai a’n cynorthwyodd yn y lleoliad.

"Rwy’n apelio ar unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio trwy Goedpoeth cyn y gwrthdrawiad ac a allai fod â lluniau camera dashfwrdd i gysylltu â ni.

“Yn yr un modd, rwy’n apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad ac sydd eto i siarad â ni i gysylltu cyn gynted â phosib.

“Mae’r ffordd wedi ail-agor ers hynny a hoffem ddiolch i drigolion lleol am eu hamynedd.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.