Teyrnged chwaer ar ôl dod o hyd i gorff dyn o Abertawe ddiflanodd 20 mlynedd yn ôl

Mae chwaer dyn o Abertawe a ddiflannodd dros 20 mlynedd yn ôl wedi talu teyrnged iddo wedi i’r heddlu ddod o hyd i’w gorff.
Fe wnaeth yr heddlu ddod o hyd i’r hyn sy’n weddill o gorff Russell Scozzi o West Cross Abertawe y tu ôl i Waverley Drive, y Mwmblws.
Diflannodd ym mis Mai 2002.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies eu bod nhw’n parhau i ymchwilio i achos ei farwolaeth.
Mewn teyrnged dywedodd ei chwaer ei bod hi’n cydymdeimlo â phlant Russell Scozzi a oedd wedi tyfu i fyny heb dad a ddim yn gwybod beth oedd wedi digwydd iddo.
“Gobeithio nawr fe allwn ni fel teulu roi heddwch i’w lwch a diolch i Heddlu De Cymru am ddarganfod beth ddigwyddodd iddo,” meddai.
“Ro’n i’n caru Russell yn fawr. Roedd yn frawd mawr o’n i’n edrych i fyny ato wrth dyfu fyny ac mae ei golli fel hyn yn torri fy nghalon.
“O’r diwedd fe fyddwn ni’n cael cyfle i’w alaru yn iawn.”