Newyddion S4C

Carol Shillabeer

Penodi Prif Weithredwr dros dro i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

NS4C 02/05/2023

Mae Carol Shillabeer wedi cael ei phenodi yn Brif Weithredwr dros dro Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. 

Bydd Ms Shillabeer, sydd wedi bod yn Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ers 2015, yn dechrau yn ei rôl newydd ddydd Mercher. 

Camodd y Prif Weithredwr blaenorol, Jo Whitehead, i lawr ym mis Rhagfyr.

Fis Chwefror, cafodd y bwrdd iechyd ei osod o dan fesurau arbennig am yr ail dro, gan Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan AS, yn sgil "pryderon difrifol am berfformiad, arweinyddiaeth a diwylliant".

Daeth y penderfyniad yn dilyn adroddiad damniol a ddywedodd nad oedd arweinyddiaeth bwrdd iechyd mwyaf Cymru yn gweithio'n iawn.

Fe gytunodd y Cadeirydd, Is-gadeirydd ac aelodau annibynnol y Bwrdd i gamu i’r naill ochr, gyda chyn arweinydd Cyngor Gwynedd Dyfed Edwards yn cael ei benodi fel cadeirydd newydd.

Dywedodd Carol Shillabeer ei bod yn "falch iawn o ymuno â thîm Betsi".

"Rydw i'n cydnabod yr heriau, ac rydw i hefyd yn ymwybodol iawn o'r gwaith positif sy'n cael ei wneud ar draws Gogledd Cymru ac o angerdd ac ymrwymiad y staff a chymunedau," meddai.

"Edrychaf ymlaen at gydweithio â staff, partneriaid a'n cymunedau a gwrando arnynt yng ngwir ystyr y gair, fel y gallwn ddefnyddio'r cyfle sy'n dod yn sgil Mesurau Arbennig i gydweithio er mwyn arwain at welliannau parhaus a chynaliadwy."

'Cadarnhau'

Mae'r broses o recriwtio Prif Weithredwr parhaol ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eisoes ar waith. 

Dywedodd Cadeirydd Dros Dro y Bwrdd Iechyd, Dyfed Edwards, ei bod hi'n "bleser gennyf gadarnhau y bydd Carol yn ymuno â ni.

"Bydd ei phrofiad helaeth fel Prif Weithredwr ac mewn rolau arweinyddiaeth glinigol yn GIG Cymru ynghyd â'i chefndir o weithio mewn partneriaeth o fudd mawr i ni wrth i ni weithio i greu sefydlogrwydd.

"Ar ran y Bwrdd, mae'n bleser gennyf groesawu Carol i Ogledd Cymru wrth i ni gydweithio i wneud y cynnydd sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau iechyd y gallwn ni gyd fod yn falch ohonynt."

Mae Prif Weithredwr Dros Dro presennol y Bwrdd Iechyd, Gill Harris, ar gyfnod estynedig o absenoldeb salwch. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.