Newyddion S4C

Lansio llinell gymorth 24 awr i gefnogi teuluoedd sy’n byw â chyflyrau niwrowahanol

01/05/2023
S4C

Mae llinell gymorth 24 awr sy’n cynnig cefnogaeth i deuluoedd sy’n byw gydag awtistiaeth a chyflyrau niwrowahanol wedi cael ei lansio.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu drwy ehangu’r Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol (Llinell Gymorth C.A.L.L.), ac mae’r staff yn cael hyfforddiant ychwanegol ar niwrowahaniaeth gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol. 

Mae’r cynllun Niwrowahanol – a all hefyd gyfeirio unigolion niwrowahanol, eu teuluoedd a’u ffrindiau at wybodaeth am wasanaethau – wedi bod ar waith ers mis Ebrill 2023.

Mae’r fenter yn rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i gyflawni un o’i hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu, sef gwella gwasanaethau a chefnogaeth ar gyfer pobl niwrowahanol.

'Gwella bywydau'

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae gen i ddiddordeb brwd iawn mewn sicrhau ein bod ni’n darparu’r gefnogaeth y mae pobl niwrowahanol yn dweud wrthyf sydd ei hangen arnyn nhw. Rwyf wedi cwrdd â llawer o deuluoedd a chlywed am yr anawsterau maen nhw’n eu profi o ran cael mynediad at gymorth a chefnogaeth ar gyfer awtistiaeth, ADHD a syndrom Tourette.

“Mae llawer o deuluoedd wedi dweud wrthyf i bod angen iddynt allu rhannu eu gofidion, a byddai gwybod bod rhywun ar gael sy’n gallu gwrando arnyn nhw, heb eu beirniadu, yn gwneud gwahaniaeth i’w bywydau a’u llesiant. Rwy’n falch o ddweud ein bod ni’n gwrando ac yn gweithredu ar hynny.

“Rwy’n gobeithio y bydd y llinell wrando newydd hon yn helpu i wella bywydau pobl niwrowahanol a’u teuluoedd mewn ffordd ystyrlon, ac yn dod yn ffynhonnell werthfawr o gefnogaeth.”

Dywedodd Luke Ogden, rheolwr Llinell Gymorth C.A.L.L.:“Rydyn ni’n falch o allu cynnig cefnogaeth i fwy o bobl yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy’n byw gyda chyflyrau niwrowahanol, eu teuluoedd a’u ffrindiau. Drwy gael yr hyfforddiant mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn ei ddarparu, byddwn ni’n cynnig gwasanaeth mwy cynhwysol.

“Mae’r llinell gymorth yn gallu cynnig cefnogaeth emosiynol i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru, darparu gwybodaeth am wasanaethau ledled y wlad, a darparu llenyddiaeth ar ystod o bynciau i’r rhai sy’n gofyn amdani.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.