Newyddion S4C

hgc

Arestio gyrrwr dan ddylanwad cyffuriau gyda phlentyn tair oed heb gadair car

NS4C 29/04/2023

Mae Tîm Heddlu De Gwynedd wedi arestio dyn am yrru dan ddylanwad cyffuriau gyda phlentyn tair oed yng ngefn ei gar yn eistedd ar sedd fetel heb glustog.

Nid oedd gan y plentyn gadair bwrpasol ac roedd yn eistedd ar fetel ar sedd y car.

Cafodd y Fiesta Du ei stopio ar ffordd osgoi Porthmadog yn dilyn gwybodaeth a dderbyniwyd fod y gyrrwr wedi bod yn ysmygu canabis.

Methodd y dyn brawf cyffuriau am ganabis ac fe gafodd ei arestio a'i gludo i 'r ddalfa yng Nghaernarfon.

Dywedodd yr heddlu mewn datganiad: "Tu mewn i'r cerbyd roedd ei blentyn tair oed nad oedd nid yn unig yn gwisgo gwregys diogelwch yn gywir, heb ei osod mewn sedd car iawn ond roedd hi'n eistedd ar fetel moel.

"Dylai plentyn aros mewn sedd car tan 12 oed neu o leiaf 135cm (yn ddelfrydol hirach) pa un bynnag sy'n dod gyntaf.

"Nid yn unig y mae'n anghyfreithlon i beidio â chadw at hyn ond dyw hefyd ddim yn diogel."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.