Unigolyn yn dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad ger Y Bala

Mae unigolyn wedi dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad ger Y Bala nos Wener.
Cafodd swyddogion Heddlu'r Gogledd eu galw i'r digwyddiad ar ffordd y B4391 yn Rhosygwaliau am 17:47.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys tri cherbyd – BMW 3 du, Volvo V70 du a Mitsubishi L200 gwyn yn tynnu trelar.
Cafodd yr unigolyn gafodd ei anafu ei gludo i ysbyty yn Stoke ar ôl dioddef anafiadau difrifol.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu ar linell ffôn 101, gan ddyfynnu cyfeirnod A062092.