Clwstwr achosion Covid-19 Ysbyty Gwynedd wedi dod i ben
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi fod y clwstwr o achosion Covid-19 yn Ysbyty Gwynedd wedi dod i ben.
Fe gyhoeddwyd ym mis Chwefror fod 75 o gleifion ar draws pump o wardiau oedolion yr ysbyty ym Mangor wedi eu heffeithio gan Covid-19.
Ond, mae'r bwrdd iechyd nawr wedi cadarnhau na chofnodwyd yr un achos positif yn yr ysbyty yn y 28 diwrnod diwethaf.
Mewn datganiad, dywedodd Mandy Jones, Cyfarwyddwr Nyrsio yr ysbyty ym Mangor: "Mae 28 diwrnod wedi mynd heibio erbyn hyn ers i unrhyw achosion positif newydd o Covid-19 gael eu canfod fel rhan o'r clwstwr o achosion yn Ysbyty Gwynedd.
"O ganlyniad, rydym wedi datgan bod yr achosion wedi dod i ben.
"Hoffem ddiolch i'n staff am eu cefnogaeth, eu proffesiynoldeb a'u gwaith caled wrth helpu i reoli'r achosion hyn. Rydym yn meddwl am y teuluoedd a'r cleifion sydd wedi cael eu heffeithio.
"Er bod cyfyngiadau'n cael eu llacio ar draws Cymru, mae Covid-19 yn parhau i fod yn risg sylweddol. Byddwn yn parhau i fod ar ein gwyliadwraeth ac i barhau i gynnal safonau llym o ran atall heintiau yn ein hysbyty er mwyn cadw ein cleifion a'n staff yn ddiogel.
"Rydym hefyd yn ddiolchgar i'n cymued sy'n parhau i ddilyn y canllawiau sydd wedi helpu i leihau achosion yn y gymuned, sydd wedi'n helpu ni, yn ei dro, yn ystod y misoedd anodd diwethaf."
Llun: Google