Newyddion S4C

Mwy o bobl yn dychwelyd i siopa ar y stryd fawr yn newyddion da i gwmni Primark

25/04/2023
Pobl tu allan i Primark yng Nghaerdydd
NS4C

Mae'r cwmni dillad Primark wedi gweld cynnydd mewn gwerthiant ar ôl i brisiau godi a siopwyr heidio'n ôl i ganol dinasoedd, meddai'r perchennog Associated British Foods (ABF).

Cynyddodd gwerthiant y cwmni 15% yn y chwe mis hyd at ddechrau mis Mawrth, o'i gymharu â'r un cyfnod flwyddyn yn ôl.

Roedd hyn yn gynnydd gwerth £4.2 biliwn dros y cyfnod medd ABF.

Ychwanegodd y cwmni mai'r prif resymau am y cynnydd oedd rhagor o bobl yn dychwelyd i siopa ar y stryd fawr, gan gynnwys gweithwyr swyddfeydd a thwristiaid.

Roedd Primark hefyd wedi llwyddo i ddenu cwsmeriaid newydd wrth i bobl chwilio am eitemau mwy fforddiadwy yng nghanol yr argyfwng costau byw, gan arwain at gynnydd yn nifer y gwerthiannau.

Er fod y cwmni wedi cynyddu prisiau nwyddau o ganlyniad i'r cynnydd mewn chwyddiant, dywedodd ABF y byddai prisiau ei nwyddau'n sefydlogi ar ôl y flwyddyn hon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.