
Perchennog bwyty yng Nghaerfyrddin yn cau ei ddrysau yn sgíl trafferthion recriwtio
Perchennog bwyty yng Nghaerfyrddin yn cau ei ddrysau yn sgíl trafferthion recriwtio

Mae perchennog bwyty yng ngorllewin Cymru wedi penderfynu cau drysau'r busnes yn dilyn trafferthion recriwtio.
Mae ffigyrau diweddar yn awgrymu bod 77% o fusnesau yng Nghymru wedi wynebu trafferthion wrth recriwtio yn ystod y flwyddyn diwethaf.
Un o’r rheiny sydd wedi gweld yr effaith yw Steffan Hughes, perchennog Lolfa, bwyty yng Nghaerfyrddin.
Dywedodd Steffan wrth ITV Cymru fod problemau iechyd, sawl aelod o staff yn gadael a thrafferthion recriwtio, wedi arwain at orfod cau’r bwyty.
Fe wnaeth e ychwanegu bod yn rhaid iddo gau drysau’r bwyty gan nad oedd yn gallu dod o hyd i’r "gobaith i barhau”.
“Yn anffodus, rydw i wedi gwneud y penderfyniad fod rhaid i ni gau ddiwedd y mis,” meddai.
“Mae’n codi ofn pa mor gyflym mae pethau fel hyn yn gallu digwydd. Ry’n ni jyst wedi gorffen ysgrifennu bwydlenni newydd i ddod mas ar gyfer y haf.
“Rydyn ni wedi cael trafferth recriwtio staff ers tua 6 mis nawr.”

Er bod ymchwil yn dangos bod problemau recriwtio yn parhau ar draws pob sector, fe wnaeth arolwg gan British Chambers of Commerce (BCC) ddarganfod mai cwmnïau yn y sector lletygarwch sydd fwyaf tebygol o wynebu heriau wrth recriwtio.
“Dwi wedi bod yn ôl yn rheoli fan hyn ers mis Ionawr, ers i’r rheolwr arall adael," meddai Steffan Hughes. "Do’n i ddim yn gallu teimlo bod neb yn gallu dod mewn i wneud y swydd.”
Fe wnaeth 61% o fusnesau yng Nghymru geisio recriwtio ym mhedwerydd chwarter 2022. O'r rheiny, roedd 77% o gwmnïau wedi wynebu anawsterau wrth ddod o hyd i staff addas. Roedd 61% o fusnesau yn ei chael hi'n anoddaf recriwtio gweithwyr digon medrus.
“Dydw i dal ddim yn gallu credu’r peth," meddai Steffan Hughes. "Ry’n ni wedi cael dechrau mor dda i’r flwyddyn, ac mae’r ffactorau yma i gyd dros yr wythnos ddiwethaf yma wedi golygu bod yn rhaid inni gau."
'Her'
Dywedodd Cadeirydd Gweithredol Chambers Wales South East, South West and Mid, Paul Slevin: "Mae canfyddiadau Outlook Recriwtio Chwarterol y BCC yn dangos bod busnesau Prydain yn wynebu'r lefel uchaf o anawsterau recriwtio erioed.
"Rydym wedi gweld yn gyson yng nghanlyniadau ein harolygon economaidd chwarterol ein hunain fod recriwtio, yn enwedig gweithwyr medrus, yn her barhaus i fusnesau yng Nghymru.
“Dyw'r farchnad lafur hynod dynn ddim yn llacio ac yn parhau i roi pwysau ar fusnesau sy'n dymuno cynyddu cynhyrchiant a thyfu.
"Mae angen buddsoddi mewn hyfforddiant a datblygu sgiliau fel y gall cyflogwyr gefnogi pawb yn y gweithle, dod o hyd i weithwyr newydd ac ymateb i fylchau sgiliau a llafur yn eu busnesau.”