Newyddion S4C

Cornel fach o Gymru mewn bar yn Cambodia

08/04/2023

Cornel fach o Gymru mewn bar yn Cambodia

A wyddoch chi am far sydd wedi'i selio ar Gymru a'r Gymraeg - dros 6,000 o filltiroedd i ffwrdd?

Ar stryd gefn yn ninas Phnom Penh yn Cambodia mae bar 'The Welsh Embassy' yn cynnig croeso Cymreig.

Yn gwerthu cwrw o Gymru, gyda theledu sy'n dangos fideos o ddinasoedd a mynyddoedd ein gwlad ac yn cynnwys arwyddion Cymraeg, mae'r bar yn dalp o Gymru ar bendraw'r byd.

Derbyniodd y bar dipyn o sylw yn ddiweddar wedi i Kara Wildbur o Sir Ddinbych rannu ei phrofiad hi yno ar ei chyfrif TikTok.

"Mae o'n stryd llawn bars ar stryd cul, a chi'n cerdded lawr yr alley a wedyn 'da chi'n gweld y ddraig goch a baner yn dweud 'Croeso'.

"Da ni byth yn gweld petha Cymru pan 'da ni'n trafeilio so o'dd o'n sioc neis a o'dd o'n hynod o neis gweld o."

'Atgoffa o adra'

Bu Kara a'i chariad Luke yn teithio ar draws gwledydd de Asia am saith mis.

Gyda draig goch ar ei bag a'i chariad yn gwisgo cap Wrecsam, mae'r ddau yn falch iawn o fod yn Gymry.

Roedd y ddau wedi cael blas ar Gymru eto wrth weld y bar a mwynhau diodydd o Gymru yno.

Image
Kara Wildbur
Kara tra'n teithio drwy Cambodia. Llun: @okay.kara.travels

"Roedd y dynes tu ôl y bar yn siarad Cymraeg wrtha ni syth pan nathon ni gerdded tu mewn," meddai Kara.

"Mae'r ddraig goch yn ymddangos pob lle yn y bar ac mae gynnon nhw geiriau Cymraeg am bob peth.

"Ma' nhw'n ceisio dysgu ychydig bach o Gymraeg felly ma' gynnon nhw baneri yn dweud petha fel iechyd da, tŷ bach yn lle toilet.

"A tu ôl y bar mae cwrw Cymraeg sef Conwy Beer a wisgi sef Penderryn."

Defnyddio'r iaith

Nid oedd Kara wedi siarad Cymraeg yn ei fideos ar TikTok cyn ffilmio'r fideo yn y bar.

Ond fe gafodd nifer o sylwadau am ei fideo yn gofyn beth yr oedd hi'n ei ddweud, yn ogystal â sylwadau yn ei chlodfori am ddefnyddio'r Gymraeg.

Mae Kara eisoes wedi dychwelyd adref o deithio, a'i nod nawr yw gwneud fideos yn dangos llefydd yng ngogledd Cymru.

"Tro cyntaf i fi siarad Cymraeg oedd yn y fideo yna, so o'dd gennai llawer o comments yn deud 'be ddiawl ti'n deud?'

"Gan bod pawb wedi bod mor positif amdano fo dwi am ddechra siarad Cymraeg mwy aml a cael cymuned neis Cymraeg hefyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.