Humza Yousaf i gael ei ddewis yn chweched Prif Weinidog Yr Alban
Mae disgwyl i Humza Yousaf gael ei ddewis i fod yn chweched Prif Weinidog Yr Alban gan aelodau'r senedd ddydd Mawrth ar ôl iddo ennill y ras i arwain plaid yr SNP.
Yn 37 oed, Humza Yousaf fydd yr ieuengaf i arwain y senedd.
Bydd yn cymryd yr awenau ar ôl trechu Kate Forbes ac Ash Regan yn y ras.
Mae disgwyl i aelodau plaid yr SNP a'r Blaid Werdd yn yr Alban ddatgan cefnogaeth iddo yn ddiweddarach ddydd Mawrth gan sicrhau mai fe fydd yn olynu Nicola Sturgeon.
Wedi iddo enill y bleidlais honno, bydd yn tyngu llw i fod yn Brif Weinidog Yr Alban yng Nghaeredin ddydd Mercher.
Ddydd Iau, bydd yn wynebu ei wrthwynebwyr gwleidyddol yn ei sesiwn gwestiynau gyntaf fel prif weinidog.
Dyma’r tro cyntaf i ddyn Mwslemaidd fod yn arweinydd ar un o bleidiau mwyaf y Deyrnas Unedig. Dyma fydd y tro cyntaf hefyd i ddyn o leiafrif ethnig arwain Llywodraeth ddatganoledig.
Pleidleisiodd tua 72,000 o aelodau yr SNP i ethol arweinydd nesaf y blaid ar ôl i Nicola Sturgeon gyhoeddi ym Mis Chwefror y byddai hi yn ildio'r awenau ar ôl wyth mlynedd wrth y llyw.