Banc UBS yn achub banc Credit Suisse

Mae banc UBS wedi dod i’r adwy i achub banc Credit Suisse.
Fe gyhoeddwyd nos Sul fod UBS yn cymryd drosodd mewn cytundeb sy’n cael ei gefnogi gan lywodraeth y Swistir ar ôl i bryderon gynyddu am ddyfodol Credit Suisse yn dilyn wythnos gythryblus.
Roedd darogan y gallai llywodraeth y Swistir gamu i mewn i achub y banc cyn i'r marchnadoedd ariannol ailagor fore dydd Llun.
Fe wnaeth hyder y marchnadoedd ym manciau mwyaf Ewrop blymio ddydd Mercher yn dilyn yr ansicrwydd yn y Swistir.
Lledaenodd ofnau drwy farchnadoedd byd-eang wedi i fanc Credit Suisse weld ei bris cyfranddaliadau yn cyrraedd y lefel isaf erioed.
Cafodd buddsoddwyr eu hysgwyd hefyd gan gwymp Silicon Valley Bank (SVB) yn yr Unol Daleithiau dros y penwythnos diwethaf, gan godi pryderon am ddyfodol y banc mawr o'r Swistir sydd wedi ei ddisgrifio fel un oedd “yn rhy fawr i fethu”.