Menyw wedi marw a dyn mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad yng Nghaerffili

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yng Nghaerffili nos Wener.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng fan a dau gerddwr ar Heol Nantgarw am tua 19.50.
Mae un cerddwr, dynes 67 oed o ardal Caerffili, wedi marw ac mae swyddogion arbenigol yn cefnogi ei theulu.
Mae ail gerddwr, dyn 58 oed o ardal Caerffili, yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Mae dyn 48 oed, o ardal Caerffili, wedi’i arestio ar amheuaeth o bedair trosedd, sef achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus, gyrru dan ddylanwad alcohol a gyrru dan ddylanwad cyffuriau.
Mae’n parhau yn y ddalfa ac mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth.