Newyddion S4C

Suella

Yr Ysgrifennydd Cartref yn ymweld â thai posib i fudwyr yn Rwanda

NS4C 18/03/2023

Mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi mynd ar daith o amgylch tai posib i fudwyr yn Rwanda ddydd Sadwrn.

Fe gychwynnodd Suella Braverman ar ei diwrnod llawn cyntaf yn y wlad gan ailddatgan ei hymrwymiad i bolisi alltudio mudwyr o Brydain i'r wlad.

Nid oes unrhyw fudwyr wedi’u hadleoli i’r wlad hyd yn hyn gan fod y trefniant, a lofnodwyd fis Ebrill diwethaf gan ragflaenydd Ms Braverman, Priti Patel, yn parhau i fod yn rhan o frwydr gyfreithiol.

Yn ystod ei hymweliad, dywedodd y Llywodraeth bod 209 o bobl wedi croesi’r Sianel mewn cychod bach ddydd Gwener.

Ddydd Sadwrn, dywedodd un ffoadur sy’n byw yn Rwanda wrth ohebwyr nad oedd “erioed wedi teimlo fy mod wedi cael fy ystyried fel tramorwr”, ond dywedodd nad oedd yn gweld bod gan Affrica y gallu i ddal “miloedd lawer” o fudwyr.

Roedd Fesseha Teame, 48, sydd â gwraig a phedwar o blant, yn siarad ar ôl i Ms Braverman ddweud: “Mae gan Rwanda y gallu i ailsefydlu miloedd lawer o bobl, a gall godi llety yn gyflym unwaith y bydd hediadau’n cychwyn.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref hefyd fod yr awgrym mai dim ond 200 o bobl y gallai Rwanda eu cymryd yn “naratif cwbl ffug wedi’i rannu gan feirniaid sydd am ddileu’r trefniant”.

Cyn ei thaith, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref y bydd y cynllun “yn arf pwerus yn erbyn teithiau peryglus ac anghyfreithlon”.

Fore Sadwrn, cafodd Ms Braverman daith o gwmpas tai allai ddarparu cartrefi hirdymor i ymfudwyr ar ôl i lywodraeth Rwanda brynu'r tir.

Mae gan yr eiddo, gyda’r rhataf yn costio tua £14,000 i unrhyw ddarpar brynwyr, gapasiti ar gyfer parcio oddi ar y stryd, gerddi a band eang ffibr optig, yn ôl Hassan Hassan, rheolwr cyffredinol y cwmni adeiladu sydd yn gyfrifol am eu datblygu.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.