Apêl gan yr heddlu ar ôl dod o hyd i gwch yn y môr ger Bae Colwyn

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl i gwch gael ei ddarganfod yn y dŵr ym Mae Colwyn fore dydd Sadwrn.
Am oddeutu 06.00 y bore cafodd yr heddlu wybod am gwch yn y môr rhwng y pier a Phorth Eirias. Doedd neb ar fwrdd y cwch ar y pryd.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod ymdrechion i dod o hyd i berchnogion y cwch heb ganfod unrhyw atebion.
Dywedodd y Ditectif Sarjant Mark Bamber o Heddlu'r Gogledd: “Rydym yn credu bod y cwch wedi dod i’r ardal ddoe ac wedi mynd i mewn i’r dŵr yng Nghonwy.
"Enw'r cwch yw Phoenix Hardy.
“Rydym yn apelio ar y perchnogion neu bobl sydd ag unrhyw wybodaeth am y cwch i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod A039123."