Newyddion S4C

Protestwyr yn cynnal gorymdeithiau gwrth-hiliaeth mewn dinasoedd ar draws y DU

18/03/2023
PROTEST

Mae protestwyr wedi ymgynnull mewn dinasoedd ledled y DU mewn protestiadau gwrth-hiliaeth a drefnwyd mewn ymateb i Fesur Ymfudo Llywodraeth San Steffan.

Cafodd y gorymdeithiau, a drefnwyd gan Stand Up To Racism a’r STUC, eu cynnal yng Nghaerdydd, Llundain, a Glasgow brynhawn Sadwrn.

Daeth rhyw 200 o bobl at ei gilydd i orymdeithio yng Nghaerdydd.

Dywedodd y trefnwyr fod miloedd o bobl wedi cymryd rhan yn y protestiadau yn erbyn hiliaeth, Islamoffobia, gwrth-semitiaeth, a ffasgiaeth.

Dywedodd protestwyr fod y gorymdeithiau yn rhannol mewn ymateb i Fesur Mudo Anghyfreithlon “annynol” y llywodraeth.

Dywedodd Abyd Quinn Aziz o Grŵp Llywio RAW wrth yr orymdaith "bod yn rhaid i wrth-hiliaeth fod yn rhywbeth 365 diwrnod y flwyddyn a bod yna bobl dda sy’n gallu cydweithio i greu cymdeithas fwy cyfartal a chroesawgar i bob un ohonom."

Mae’r ddeddfwriaeth ddadleuol a gyflwynwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman yr wythnos diwethaf yn nodi y bydd ceisiadau lloches ffoaduriaid sy’n cyrraedd y DU drwy ddulliau sydd heb eu hawdurdodi, fel croesi'r Sianel mewn cychod, yn annerbyniol.

Mae Ms Braverman ar daith i Rwanda y penwythnos hwn i danlinellu ei hymrwymiad i bolisi’r llywodraeth i alltudio ymfudwyr i'r wlad yn Affrica.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.