Cyhuddo dyn o ymosodiadau rhyw difrifol ger Hwlffordd
Mae swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhuddo dyn yn dilyn ymchwiliad i ymosodiad rhyw difrifol ger Hwlffordd ddydd Sul 16 Mai.
Mae Anthony Williams, sydd yn 42 oed ag yn byw yn y dref, yn wynebu dau gyhuddiad o geisio treisio menyw 16 oed neu hŷn, ac un cyhuddiad o geisio treisio merch 13 oed neu iau.
Mae'n parhau yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener.
Dywedodd y Ditectif Uwch-Arolygydd Cameron Ritchie, sydd yn ymchwilio i'r achos, nad oedd y llu yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad oedd wedi digwydd ar lwybr beicio rhwng Hwlffordd a phentref Tiers Cross.
Ychwanegodd: "Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth. Fe wnaeth yr ymateb i'n cais drwy'r cyfryngau arwain at wybodaeth hanfodol i gefnogi ein hymchwiliad, ac rydym yn hynod ddiolchgar am hyn."
Mae dyn 35 oed oedd wedi ei arestio fel rhan o'r ymchwiliad bellach wedi ei ryddhau ac ni fydd yn wynebu unrhyw gamau pellach yn ei erbyn.