Newyddion S4C

streiciau prifysgol/ucu

Streiciau darlithwyr yn mynd yn eu blaenau er gwaethaf gobeithion am gytundeb

NS4C 17/03/2023

Bydd streiciau gan ddarlithwyr ym mhrifysgolion Cymru a gweddill y DU yn mynd yn eu blaenau'r wythnos nesaf er gwaethaf gobeithion am gytundeb.

Mae aelodau undeb yr UCU wedi bod yn streicio ers misoedd gan gwtogi tymhorau dysgu myfyrwyr yn ddifrifol.

Penderfynodd pwyllgor addysg uwch yr UCU ddydd Gwener i barhau â’r streiciau a pheidio â rhoi cyfle i’r aelodau bleidleisio ar gynigion newydd gan eu cyflogwyr.

Bydd hyn yn golygu bod streiciau ddydd Llun, Mawrth a Mercher yn mynd yn eu blaenau.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr UCU, Jo Grady, fod 36,000 o aelodau wedi pleidleisio er mwyn cael ystyried y cynigion ac oedi'r streiciau.

Serch hynny, fel arall aeth pleidlais pwyllgor addysg uwch yr UCU.

“Mae hyn yn golygu bod y streicio wythnos nesaf yn parhau,” meddai hi.

“Fe wnawn ni eich gweld chi ar y llinellau piced yr wythnos nesaf.”

'Siomedig'

Ond dywedodd Raj Jethwa, prif weithredwr Cymdeithas Cyflogwyr Prifysgolion a Cholegau ei fod yn dangos fod aelodau’r UCU “wedi laru ar streicio”.

“Bydd myfyrwyr a darlithwyr yn hynod o siomedig gyda phenderfyniad pwyllgor addysg uwch yr UCU i barhau i streicio.

“Mae yna gynnig go iawn ar y bwrdd er mwyn datrys y problemau sydd wrth wraidd ar anghydfod, ond maen nhw wedi penderfynu peidio â’i roi gerbron aelodau.

“Rydyn ni’n annog yr UCU i ailfeddwl.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.