Newyddion S4C

Cyhoeddi gwarant i arestio Vladimir Putin am droseddau rhyfel yn Wcrain

17/03/2023
Putin (Llywodraeth Rwsia)

Mae'r Llys Troseddol Rhyngwladol wedi cyhoeddi gwarant i arestio Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, mewn cysylltiad â throseddau rhyfel yn Wcráin. 

Mewn datganiad, dywedodd y llys y dylai Mr Putin gael ei arestio ar amheuaeth o gludo neu alltudio plant o ardaloedd yn Wcráin i diriogaeth Rwsia. 

Yn ôl y llys, mae yna dystiolaeth resymol i gredu bod gan Arlywydd Rwsia gyfrifoldeb personol dros y troseddau honedig, sydd wedi digwydd ers i Rwsia ymosod ar Wcráin ym mis Chwefror 2022. 

Fe wnaeth y llys hefyd gyhoeddi gwarant i arestio Maria Alekseyevna Lvova-Belova, Comisiynydd Hawliau Plant yn swyddfa Arlywydd Rwsia, mewn cysylltiad â'r un cyhuddiadau. 

Mewn cyhoeddiad fideo, dywedodd llywydd y Llys Troseddol Rhyngwladol, Piotr Hofmański, fod hyn yn "gam pwysig yn y broses o gyfiawnder.

"Mae’n anghyfreithlon o dan deddfwriaeth ryngwladol i gludo pobl gyffredin o’r lleoliad lle maent yn byw i leoliadau eraill.

"Mae plant yn derbyn amddiffyniad arbennig o dan Gonfensiwn Genefa.

"Mae’r barnwyr wedi adolygu'r wybodaeth a thystiolaeth gan yr erlyniad ac wedi penderfynu bod yna achos credadwy yn erbyn yr unigolion yma.

"Mae’r llys yn cyflawni ei rôl trwy gyhoeddi gwarantau i arestio'r unigolion, mae gweithredu ar y gwarantau yn dibynnu ar gydweithredu  rhyngwladol."

Yn sgil cyhoeddiad y llys dywedodd Prif Erlynydd Wcráin, Andriy Kostin, ar gyfryngau cymdeithasol bod hyn yn cyhoeddi "neges glir bod Rwsia yn lywodraeth droseddol".

"Rydw i'n werthfawrogol iawn o'r ICC am y penderfyniad hanesyddol yma," meddai. 

"Nawr, os ydy Putin yn gadael Rwsia, bydd yn cael ei arestio. Fe fydd arweinwyr y byd yn meddwl ddwywaith am siglo ei law neu gynnal trafodaethau gyda Putin.

Mewn ymateb ar yr ap Telegram, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Rwsia, Maria Zakharova, nad oes "unrhyw bwys" i'r gwarantau. 

"Nid oes gan benderfyniadau'r Llys Rhyngwladol Troseddol unrhyw bwys yn ein gwlad, gan gynnwys o safbwynt cyfreithiol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.