Data newydd yn dangos 'manteision gyrru ar gyflymder o 20mya'

Mae prif ganfyddiadau adroddiad newydd ar sail ardaloedd sy'n treialu'r cyflymder o 20mya wedi dangos manteision gyrru ar gyflymder arafach.
Mae'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener, sef chwe mis union cyn i'r terfyn cyflymder dadleuol ddod i rym ar draws Cymru.
Mae'r adroddiad monitro interim yn defnyddio data sydd wedi ei gasglu gan yr wyth ardal sy'n rhan o dreialu'r cyflymder.
Ymysg y manteision sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad, mae lleihad yn y nifer o wrthdrawiadau ar y ffyrdd, cynnydd yn y bobl sy'n cerdded a beicio, a lleihad yn y nifer o anafiadau difrifol.
Mae data sydd wedi ei gasglu o'r wyth ardal hefyd yn dangos fod gyrwyr yn gyrru'n arafach, gyda gostyngiad ar gyfartaledd o 3mya.
Bydd y terfyn cyflymder yn dod i rym ar ffyrdd cyfyngedig, sef ffyrdd lle mae goleuadau stryd dim mwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd fel arfer mewn ardaloedd preswyl gyda nifer uchel o gerddwyr.
Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno'r terfyn cyflymder, gan ddilyn esiampl gwledydd yn Ewrop megis Sbaen.
'Achub bywydau'
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy’n gyfrifol am drafnidiaeth, Lee Waters fod y "data diweddaraf eisoes yn dangos y manteision y gallwn ddisgwyl eu gweld ledled Cymru diolch i'r cam beiddgar y byddwn yn ei gymryd i ostwng y terfynau cyflymder diofyn yn ddiweddarach eleni.
"Gall penderfyniadau fel hyn fod yn amhoblogaidd ac rydym yn gwybod nad yw newid byth yn hawdd, fodd bynnag, mae tystiolaeth o bob cwr o'r byd yn glir – mae lleihau terfynau cyflymder yn achub bywydau."
Er y manteision sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad, nid yw'r Ceidwadwyr Cymraeg o blaid y newid.
'Effaith niweidiol'
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid: "Dylai cyflwyno terfyn cyflymder 20mya gael ei benderfynu gan gynghorau lleol a'u lleoli tu allan i ysgolion a llefydd tebyg.
"Mae'r ymchwil yn bell o fod yn derfynol ac mae astudiaethau achos yn dangos y gall terfyn 20mya gael effaith niweidiol ar drafnidiaeth gyhoeddus.
"Mae angen i weinidogion Llafur gyflwyno ddod â'r mesurau cyfyngedig ar ddefnyddwyr y ffyrdd yng Nghymru i ben a ffocysu ar sicrhau bod gan Gymru system trafnidiaeth gyhoeddus addas ar gyfer y ganrif hon."