Newyddion S4C

Gwahardd yr ap TikTok o ffonau swyddogol Llywodraeth Cymru

16/03/2023
Ap TikTok i'w weld ar ffôn symudol

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn gwahardd yr ap TikTok rhag cael ei ddefnyddio ar ffonau swyddogol ei swyddogion. 

Daw hyn wedi i Lywodraeth y DU wahardd yr ap o ffonau gweinidogion a gweision sifil yn gynharach ddydd Iau. 

Mae'r penderfyniad yn dilyn adolygiad diogelwch gan y Ganolfan Genedlaethol ar Ddiogelwch Seibr. 

Daw'r cyhoeddiad gan Oliver Dowden o Swyddfa’r Cabinet, ymysg pryderon am y cysylltiadau diogelwch rhwng yr ap a'r awdurdodau yn Tseina. 

Bydd y newid yn dod i rym ar unwaith yn sgil risg i “ddata sensitif y Llywodraeth,” yn ôl Mr Dowden. 

Ychwanegodd: “Rhaid i ddiogelwch gwybodaeth sensitif y Llywodraeth ddod yn gyntaf, felly heddiw rydym yn gwahardd yr ap hwn ar ddyfeisiau’r Llywodraeth. 

“Bydd y defnydd o apiau sydd yn defnyddio data yn yr un modd yn cael ei adolygu’n barhaus."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "croesawu" cyhoeddiad Swyddfa'r Cabinet ac yn gweithio i'w weithredu ar unwaith. 

Daw’r penderfyniad yn dilyn pwysau ar y prif weinidog Rishi Sunak gan ASau i ddilyn trywydd yr Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd wrth wahardd yr ap o ffonau gwaith staff y llywodraeth. 

Ond fe fydd gweinidogion yn parhau i gael defnyddio’r ap ar eu dyfeisiau personol. 

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd TikTok, sydd yn berchen i'r cwmni Tseinieaidd ByteDance, ei fod yn “siomedig” gyda’r penderfyniad gan fynnu bod y gwaharddiad yn seiliedig ar “gamsyniadau” gwleidyddol rhyngwladol. 

Ni fydd gwaharddiadau ehangach yn dod i rym i’r cyhoedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.