Cwmni John Lewis yn rhybuddio am ddiswyddiadau yn dilyn colledion ariannol

Mae cwmni John Lewis Partnership wedi rhybuddio y gallai orfod gwneud diswyddiadau yn dilyn canlyniadau ariannol siomedig.
Am yr eildro yn unig ers 1953, ni fydd gweithwyr y cwmni'n derbyn bonws eleni.
Dywedodd y cwmni y gallai gweithwyr gael eu heffeithio gan yr ymdrechion i dorri costau er mwyn trawsnewid rhagolygon ariannol y cwmni.
Mewn llythyr at ei staff, dywedodd Cadeirydd y cwmni, Y Fonesig Sharon White:
“Gan fod angen i ni ddod yn fwy effeithlon a chynhyrchiol, bydd hynny’n cael effaith ar ein nifer o Bartneriaid.
“Mae hynny’n ofid mawr i mi’n bersonol.”
Ychwanegodd nad oedd unrhyw niferoedd dan sylw o ran diswyddiadau ar hyn o bryd ond fe fyddai newidiadau'n arwain at weithlu llai yn y dyfodol.
“Wrth inni ddod yn fwy effeithlon, mae hynny’n anochel yn golygu llai o amser a llai o bartneriaid.
“Rydym yn ceisio gwneud yn glir y bore yma fod y cynllunio partneriaeth yn uwchraddio faint o arbedion effeithlonrwydd y gallwn eu dilyn. Rydyn ni’n disgwyl iddyn nhw gael effeithiau ond does dim niferoedd.”
Daw hyn wrth i’r grŵp, sydd hefyd yn rhedeg y gadwyn archfarchnad Waitrose, gofnodi colledion o £78 miliwn ar gyfer y flwyddyn hyd at 28 Ionawr.
Roedd hyn yn gwymp o'r elw o £181 miliwn yn y flwyddyn flaenorol, gyda John Lewis yn rhoi'r bai ar “bwysau chwyddiant”.
Cofnododd JLP golled cyn treth o £234 miliwn wrth gynnwys costau ychwanegol fel gostyngiadau sylweddol ar eiddo manwerthu.
Ymddiheurodd y Fonesig Sharon hefyd i staff am y diffyg taliad bonws ar ôl “set anodd o ganlyniadau”.